Oedolion preswyl yng Nghymru a phlant sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol y GIG yn ôl cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Hidlwyr

Diwedd cyfnod 12 mis plant 24 mis oedolion
5 o 5 wedi'u dewis
Math o gleifion
2 o 2 wedi'u dewis
Cwintel MALIC
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Diwedd cyfnod 12 mis plant 24 mis oedolionWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd
Math o gleifionWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
Cwintel MALICWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 6 gwerthNewid gwerthoedd
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [r] = diwygiedig.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataDiwedd cyfnod 12 mis plant 24 mis oedolionMath o gleifionCwintel MALIC
41,064Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn1
28.1Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn1
39,094Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn2
31.3Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn2
39,073Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn3
33.5Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn3
40,977Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn4
35.4Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn4
46,037Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn5
40.5Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2022Plentyn5
5,604Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2022PlentynLSOA breswyl y claf ddim yn hysbys
185,111Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn1
40.1Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn1
191,861Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn2
39.4Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn2
187,629Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn3
36.1Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn3
191,355Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn4
36.8Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn4
204,675Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn5
40.7Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2023Oedolyn5
29,217Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023OedolynLSOA breswyl y claf ddim yn hysbys
59,318Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023Plentyn1
40.6Canran o'r boblogaeth a gafodd driniaeth31/03/2023Plentyn1
54,257Nifer y cleifion a gafodd driniaeth31/03/2023Plentyn2
Yn dangos 1 i 25 o 99 rhes
Page 1 of 4

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2027

Diweddariadau

27ain Awst 2026

Data wedi'i ychwanegu ar gyfer cyfnodau sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2026.

Mae'r data canrannol ar gyfer y cyfnodau sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2025 bellach yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn LSOA mwy amserol ar gyfer 2024, yn hytrach na data Cyfrifiad 2021 a ddefnyddiwyd yn flaenorol.

22ain Ebrill 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data 1
Gwasanaethau deintyddol
Darparwr data 2
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 2
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC)
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Darparwr data 4
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 4
Cyfrifiad 2021
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2022 i Mawrth 2026
ID y set ddata
62b960ff-fc18-4e34-ae8d-65fcdb8ed36a

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer oedolion a phlant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu trin yn ôl cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), ar gyfer pob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i oedolion a phob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i blant.

Cyfrifo neu gasglu data

Seilir yr ystadegau ar gleifion sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y data hwn yn cynnwys trigolion o'r tu allan i Gymru sy'n cael eu trin yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys trigolion o Gymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru. Y rheswm dros hyn yw bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata FP17W o bractisau deintyddol yng Nghymru yn unig.

Defnyddir set ddata lefel FP17W ar wahân, a ddarperir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, i olrhain niferoedd cleifion sy'n cael eu trin yn ôl nodweddion cleifion. Mae'r cyfansymiau sy'n deillio o'r set ddata hon yn uwch na'r prif ffigurau cyfatebol a gyhoeddwyd ar StatsCymru: Oedolion a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 24 mis diwethaf a Plant a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf oherwydd bod cleifion y cynhaliwyd eu triniaeth ddiweddaraf o fewn cyfnod cyfeirio yn Lloegr, ond a gafodd driniaeth gynharach yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'u heithrio o'r prif fesurau ond wedi'u cadw yn set ddata lefel FP17W. Ar lefel Cymru, nid yw'r cyfrif ar gyfer oedolion a gafodd eu trin dros y 24 mis diwethaf yn fwy na 0.9% yn uwch, tra bod y cyfrif ar gyfer plant a gafodd eu trin dros y 12 mis diwethaf ddim mwy na 4.3% yn uwch.

Mae'r dadansoddiadau yn seiliedig ar Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is preswyl y claf. Os oedd y claf yn byw mewn ardal gynnyrch ehangach haen is (ACEHI) (SYG) a oedd ymhlith yr 20% mwyaf difreintiedig o ACEHI yng Nghymru yn ôl MALlC 2025 (MALlC 2019 ar gyfer y cyfnodau cyfeirio a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, Mawrth 2023 a Mawrth 2024) dyrannwyd y claf i gwintel amddifadedd 1. Mae'r dyraniad hwn yn parhau ar gyfer pob categori 20%, gan ddod i ben gyda chleifion sy'n byw mewn ACEHIau sydd ymhlith y 20% lleiaf difreintiedig o ACEHIau yn cael eu dyrannu i amddifadedd cwintel 5. Mae cleifion a oedd yn byw y tu allan i Gymru wedi'u heithrio o'r dadansoddiadau ac maent wedi'u cynnwys yn y categori ‘ACEHI preswyl y claf yn anhysbys’.

Ar gyfer y cyfrifiad canrannol, mae'r enwadur yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2024 (poblogaeth cyfrifiad 2021 ar gyfer cyfnodau hyd at fis Mawrth 2024).

Dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022 ymlaen y mae data ar gael. Gan fod y mesur i oedolion yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o 24 mis, y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar ei chyfer yw'r 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw'n ôl am wiriadau deintyddol wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Mae'r canllawiau'n argymell hefyd nad yw'r cyfnod adalw hwyaf i blant (o dan 18 oed) yn hwy na 12 mis. Felly, mae ystadegau ar oedolion sy'n cael eu trin yn seiliedig ar y cyfnod blaenorol o 24 mis; mae'r ystadegau ar gyfer plant yn cyfeirio at y cyfnod blaenorol o 12 mis.

Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.

Ansawdd ystadegol

Mae rhai cleifion ym mhob cyfnod a oedd yn byw yng Nghymru ar gyfer eu triniaeth gynharach ond wedi hynny yn byw yn Lloegr ar gyfer eu triniaeth ddiweddaraf. Gan mai'r cofnodion diweddaraf sy'n cael eu cadw, nid yw'r cleifion hyn o Gymru wedi'u cynnwys yn y dadansoddiadau ac maent wedi'u cynnwys yn y categori ‘ACEHI preswyl y claf yn anhysbys’. Mae'r nifer yn fach iawn, sef llai na 0.1% o'r holl gleifion sy'n cael eu trin.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru