Cleifion (oedolion a phlant) a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol y GIG yng Nghymru yn ystod cyfnod o 12 mis, yn ôl bwrdd iechyd lleol

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Mesur
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
12 mis yn dod I ben
39 o 39 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
MesurWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 6 gwerthNewid gwerthoedd
12 mis yn dod I benWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 39 gwerthNewid gwerthoedd
ArdalWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 10 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn
Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataMesur12 mis yn dod I benArdal
1,005,399NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025Cymru
163,676NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025Betsi Cadwaladr
34,087NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025Powys
80,309NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025 Hywel Dda
139,568NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025Bae Abertawe
225,755NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025Aneurin Bevan
169,948NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025Cwm Taf Morgannwg
192,056NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/12/2025Caerdydd a'r Fro
1,022,831NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025Cymru
165,976NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025Betsi Cadwaladr
35,065NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025Powys
84,348NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025 Hywel Dda
142,799NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025Bae Abertawe
230,047NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025Aneurin Bevan
170,528NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025Cwm Taf Morgannwg
194,068NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/09/2025Caerdydd a'r Fro
1,029,159NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025Cymru
166,305NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025Betsi Cadwaladr
35,783NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025Powys
86,384NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025 Hywel Dda
142,105NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025Bae Abertawe
232,732NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025Aneurin Bevan
196,240NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025Caerdydd a'r Fro
169,610NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth30/06/2025Cwm Taf Morgannwg
1,049,514NiferNifer yr holl gleifion a gafodd driniaeth31/03/2025Cymru
Yn dangos 1 i 25 o 1,872 rhes
Page 1 of 75

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Chwefror 2026

Diweddariadau

22ain Ebrill 2026

Data newydd wedi'i ychwanegu

5ed Mawrth 2026

Data newydd wedi'i ychwanegu

24ain Chwefror 2026

Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data

20ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data 1
Gwasanaethau deintyddol
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Cyfnod amser dan sylw
Mehefin 2016 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer cleifion sy'n cael eu trin (oedolion, plant, a phob claf) mewn cyfnod treigl o 12 mis o'r 12 mis a ddaeth i ben 30 Mehefin 2016 ymlaen.

Mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar gleifion sy’n cael eu trin gan ddeintyddion y GIG yng Nghymru (waeth beth fo’u gwlad breswyl).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Mae 'cleifion sy'n cael eu trin' yn cyfrif nifer y cleifion unigryw sydd wedi cael eu trin yn ystod y 12 mis diwethaf; Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif hyd yn oed os ydynt wedi derbyn sawl cyfnod o ofal dros y cyfnod.

Defnyddir cyfnod o 12 mis ar gyfer yr ystadegau hyn gan fod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod plant yn cael eu galw’n ôl i gael archwiliadau bob tri mis i 12 mis, yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi plant sy'n cael eu trin, dylai'r prif fesur ystadegol fod yn seiliedig ar blant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis.

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data sy'n seiliedig ar gyfnod o 12 mis. Dangosir data hefyd ar gyfer oedolion ar gyfer cyflawnrwydd ac mae hyn yn caniatáu mesur cyfanswm yr holl gleifion (oedolion + plant).

Cyfrifir canran y boblogaeth a gafodd eu trin ym mhob cyfnod o 24 mis a 12 mis gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a blwyddyn ariannol lawn 2020-21 ymlaen.

Mae’r newid i ffiniau byrddau iechyd wedi effeithio ar niferoedd y cleifion a driniwyd o fewn cyfnod o 12 mis, ar ôl i Ben-y-bont ar Ogwr symud i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill 2019. Mae’r set ddata yn cyfrif unigolion unigryw a ddefnyddiodd wasanaethau deintyddol yn y cyfnod o 12 mis. Pan fo unigolyn wedi defnyddio gwasanaethau deintyddol fwy nag unwaith yn y cyfnod o 12 mis yn yr un bwrdd iechyd, dim ond manylion y driniaeth ddiwethaf a fyddai’n cael eu cyfrif yn y set ddata er mwyn osgoi ei gyfrif ddwywaith. Serch hynny, gan fod data yn cael eu casglu dros gyfnod o 12 mis lle mae ffin bwrdd iechyd wedi newid, mae’n bosibl y caiff yr un unigolyn ei gyfrif ym mwrdd iechyd blaenorol Pen-y-bont ar Ogwr (Abertawe Bro Morgannwg) a’i fwrdd iechyd newydd (Cwm Taf Morgannwg neu Fae Abertawe) gan ddibynnu ar ddyddiad y driniaeth ddiwethaf. Er enghraifft, os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror 2019 ac eto ym mis Mai 2019, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019 ond data Cwm Taf Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. Ac os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2019 ac nid yw wedi mynd at ddeintydd ers hynny, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019, a data Bae Abertawe ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. I roi ffigur sy’n adlewyrchu’r sefyllfa yn well ar gyfer canran y cleifion a driniwyd (cyfanswm, oedolion a phlant), mae amcangyfrifon o boblogaeth y byrddau iechyd newydd wedi’u creu gan ddefnyddio data ychwanegol cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl 1 Ebrill 2019 (ffynhonnell: Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG). Er enghraifft, o blith y cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae data ar gyfer Gorffennaf-Medi 2019 yn dangos y cafodd 67% driniaeth ar ôl 1 Ebrill 2019 yng Nghwm Taf Morgannwg. Felly, ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2019, dyma’r amcangyfrifon o’r enwadur ar gyfer y byrddau iechyd newydd: Poblogaeth gymwys Bae Abertawe = Abertawe + Castell-nedd Port Talbot + ((0.33) * Pen-y-bont ar Ogwr) Poblogaeth gymwys Cwm Taf Morgannwg = Rhondda Cynon Taf + Merthyr Tudful + ((0.67) * Pen-y-bont ar Ogwr)

Data ar gyfer y cyfnod o 12 mis a ddaw i ben ym mis Mawrth 2020 fydd y cyfnod amser cyntaf na fydd y newid i’r ffiniau yn effeithio ar ei ddata. Cynghorir gofal wrth ddefnyddio’r data ar gyfer y cyfnodau amser sy’n cwmpasu’r newid i ffiniau’r byrddau iechyd.

Ansawdd ystadegol

Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru