Oedolion preswyl yng Nghymru a phlant sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol y GIG yn ôl cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Diwedd cyfnod 12 mis plant 24 mis oedolion
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o gleifion
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cwintel MALIC
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2027

Diweddariadau

27ain Awst 2026

Data wedi'i ychwanegu ar gyfer cyfnodau sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2026.

Mae'r data canrannol ar gyfer y cyfnodau sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2025 bellach yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn LSOA mwy amserol ar gyfer 2024, yn hytrach na data Cyfrifiad 2021 a ddefnyddiwyd yn flaenorol.

22ain Ebrill 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data 1
Gwasanaethau deintyddol
Darparwr data 2
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 2
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC)
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Darparwr data 4
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 4
Cyfrifiad 2021
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2022 i Mawrth 2026
ID y set ddata
62b960ff-fc18-4e34-ae8d-65fcdb8ed36a

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer oedolion a phlant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu trin yn ôl cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), ar gyfer pob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i oedolion a phob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i blant.

Cyfrifo neu gasglu data

Seilir yr ystadegau ar gleifion sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y data hwn yn cynnwys trigolion o'r tu allan i Gymru sy'n cael eu trin yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys trigolion o Gymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru. Y rheswm dros hyn yw bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata FP17W o bractisau deintyddol yng Nghymru yn unig.

Defnyddir set ddata lefel FP17W ar wahân, a ddarperir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, i olrhain niferoedd cleifion sy'n cael eu trin yn ôl nodweddion cleifion. Mae'r cyfansymiau sy'n deillio o'r set ddata hon yn uwch na'r prif ffigurau cyfatebol a gyhoeddwyd ar StatsCymru: Oedolion a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 24 mis diwethaf a Plant a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf oherwydd bod cleifion y cynhaliwyd eu triniaeth ddiweddaraf o fewn cyfnod cyfeirio yn Lloegr, ond a gafodd driniaeth gynharach yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'u heithrio o'r prif fesurau ond wedi'u cadw yn set ddata lefel FP17W. Ar lefel Cymru, nid yw'r cyfrif ar gyfer oedolion a gafodd eu trin dros y 24 mis diwethaf yn fwy na 0.9% yn uwch, tra bod y cyfrif ar gyfer plant a gafodd eu trin dros y 12 mis diwethaf ddim mwy na 4.3% yn uwch.

Mae'r dadansoddiadau yn seiliedig ar Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is preswyl y claf. Os oedd y claf yn byw mewn ardal gynnyrch ehangach haen is (ACEHI) (SYG) a oedd ymhlith yr 20% mwyaf difreintiedig o ACEHI yng Nghymru yn ôl MALlC 2025 (MALlC 2019 ar gyfer y cyfnodau cyfeirio a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, Mawrth 2023 a Mawrth 2024) dyrannwyd y claf i gwintel amddifadedd 1. Mae'r dyraniad hwn yn parhau ar gyfer pob categori 20%, gan ddod i ben gyda chleifion sy'n byw mewn ACEHIau sydd ymhlith y 20% lleiaf difreintiedig o ACEHIau yn cael eu dyrannu i amddifadedd cwintel 5. Mae cleifion a oedd yn byw y tu allan i Gymru wedi'u heithrio o'r dadansoddiadau ac maent wedi'u cynnwys yn y categori ‘ACEHI preswyl y claf yn anhysbys’.

Ar gyfer y cyfrifiad canrannol, mae'r enwadur yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2024 (poblogaeth cyfrifiad 2021 ar gyfer cyfnodau hyd at fis Mawrth 2024).

Dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022 ymlaen y mae data ar gael. Gan fod y mesur i oedolion yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o 24 mis, y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar ei chyfer yw'r 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw'n ôl am wiriadau deintyddol wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Mae'r canllawiau'n argymell hefyd nad yw'r cyfnod adalw hwyaf i blant (o dan 18 oed) yn hwy na 12 mis. Felly, mae ystadegau ar oedolion sy'n cael eu trin yn seiliedig ar y cyfnod blaenorol o 24 mis; mae'r ystadegau ar gyfer plant yn cyfeirio at y cyfnod blaenorol o 12 mis.

Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.

Ansawdd ystadegol

Mae rhai cleifion ym mhob cyfnod a oedd yn byw yng Nghymru ar gyfer eu triniaeth gynharach ond wedi hynny yn byw yn Lloegr ar gyfer eu triniaeth ddiweddaraf. Gan mai'r cofnodion diweddaraf sy'n cael eu cadw, nid yw'r cleifion hyn o Gymru wedi'u cynnwys yn y dadansoddiadau ac maent wedi'u cynnwys yn y categori ‘ACEHI preswyl y claf yn anhysbys’. Mae'r nifer yn fach iawn, sef llai na 0.1% o'r holl gleifion sy'n cael eu trin.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru