Datganiad hygyrchedd StatsCymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan a chynnwys StatsCymru.

Defnyddio’r wefan hon

Llywodraeth Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Mae'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, braille, IAP, print bras, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

  • e-bost: statscymru@llyw.cymru
  • ffôn (galwadau yn y Deyrnas Unedig): 0300 0604400
  • ffôn (galwadau rhyngwladol): (+44) 1443 845500

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • y fformat yr hoffech ei dderbyn
  • pa dechnolegau cynorthwyol a ddefnyddiwch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi eto cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â cymorth@llyw.cymru.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.

Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 31 Gorffennaf 2025. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 31 Gorffennaf 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2025. Cynhaliwyd y prawf gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw a phrofion awtomataidd. Cynhaliwyd y profion awtomataidd gan ddefnyddio offer archwilio Lighthouse Accessibility.