Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Diwedd cyfnod 12 mis plant 24 mis oedolion
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o gleifion
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026

Diweddariadau

22ain Ebrill 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data 1
Gwasanaethau deintyddol
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2022 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol, ar gyfer pob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i oedolion a phob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i blant.

Cyfrifo neu gasglu data

Seilir yr ystadegau ar gleifion sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y data hwn yn cynnwys trigolion o'r tu allan i Gymru sy'n cael eu trin yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys trigolion o Gymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru. Y rheswm dros hyn yw bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata FP17W o bractisau deintyddol yng Nghymru yn unig.

Defnyddir set ddata lefel FP17W ar wahân, a ddarperir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, i olrhain niferoedd cleifion sy'n cael eu trin yn ôl nodweddion cleifion. Mae'r cyfansymiau sy'n deillio o'r set ddata hon yn uwch na'r prif ffigurau cyfatebol a gyhoeddwyd ar StatsCymru: Oedolion a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 24 mis diwethaf a Plant a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf oherwydd bod cleifion y cynhaliwyd eu triniaeth ddiweddaraf o fewn cyfnod cyfeirio yn Lloegr, ond a gafodd driniaeth gynharach yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'u heithrio o'r prif fesurau ond wedi'u cadw yn set ddata lefel FP17W. Ar lefel Cymru, nid yw'r cyfrif ar gyfer oedolion a gafodd eu trin dros y 24 mis diwethaf yn fwy na 0.9% yn uwch, tra bod y cyfrif ar gyfer plant a gafodd eu trin dros y 12 mis diwethaf ddim mwy na 4.3% yn uwch.

Cyfrifir canran y boblogaeth a gafodd ei thrin ym mhob cyfnod o 24 mis a 12 mis gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Adolygodd y SYG yr amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 ar 30 Gorffennaf 2025, ac felly mae ystadegau ar gyfer canran y boblogaeth a gafodd eu trin wedi’u diwygio. Mae hyn wedi arwain at newidiadau bach sy’n amrywio rhwng 0.1 a 0.5 pwynt canran ar lefel Cymru.

Dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022 ymlaen y mae data ar gael. Gan fod y mesur i oedolion yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o 24 mis, y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar ei chyfer yw'r 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw'n ôl am wiriadau deintyddol wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Mae'r canllawiau'n argymell hefyd nad yw'r cyfnod adalw hwyaf i blant (o dan 18 oed) yn hwy na 12 mis. Felly, mae ystadegau ar oedolion sy'n cael eu trin yn seiliedig ar y cyfnod blaenorol o 24 mis; mae'r ystadegau ar gyfer plant yn cyfeirio at y cyfnod blaenorol o 12 mis.

Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.

Ansawdd ystadegol

Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru