Oedolion a phlant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu trin ôl cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Diwedd cyfnod 12 mis plant 24 mis oedolion
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o gleifion
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cwintel MALIC
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026

Diweddariadau

22ain Ebrill 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data 1
Gwasanaethau deintyddol
Darparwr data 2
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 2
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC)
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Cyfrifiad 2021
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2022 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer oedolion a phlant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu trin yn ôl cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), ar gyfer pob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i oedolion a phob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i blant.

Cyfrifo neu gasglu data

Seilir yr ystadegau ar gleifion sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y data hwn yn cynnwys trigolion o'r tu allan i Gymru sy'n cael eu trin yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys trigolion o Gymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru. Y rheswm dros hyn yw bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata FP17W o bractisau deintyddol yng Nghymru yn unig.

Defnyddir set ddata lefel FP17W ar wahân, a ddarperir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, i olrhain niferoedd cleifion sy'n cael eu trin yn ôl nodweddion cleifion. Mae'r cyfansymiau sy'n deillio o'r set ddata hon yn uwch na'r prif ffigurau cyfatebol a gyhoeddwyd ar StatsCymru: Oedolion a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 24 mis diwethaf a Plant a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf oherwydd bod cleifion y cynhaliwyd eu triniaeth ddiweddaraf o fewn cyfnod cyfeirio yn Lloegr, ond a gafodd driniaeth gynharach yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'u heithrio o'r prif fesurau ond wedi'u cadw yn set ddata lefel FP17W. Ar lefel Cymru, nid yw'r cyfrif ar gyfer oedolion a gafodd eu trin dros y 24 mis diwethaf yn fwy na 0.9% yn uwch, tra bod y cyfrif ar gyfer plant a gafodd eu trin dros y 12 mis diwethaf ddim mwy na 4.3% yn uwch.

Mae'r dadansoddiadau yn seiliedig ar Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is preswyl y claf. Os oedd y claf yn byw mewn ardal gynnyrch ehangach haen is (ACEHI) (SYG) a oedd ymhlith yr 20% mwyaf difreintiedig o ACEHI yng Nghymru yn ôl MALlC 2025 (MALlC 2019 ar gyfer y cyfnodau cyfeirio a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, Mawrth 2023 a Mawrth 2024) dyrannwyd y claf i gwintel amddifadedd 1. Mae'r dyraniad hwn yn parhau ar gyfer pob categori 20%, gan ddod i ben gyda chleifion sy'n byw mewn ACEHIau sydd ymhlith y 20% lleiaf difreintiedig o ACEHIau yn cael eu dyrannu i amddifadedd cwintel 5. Mae cleifion a oedd yn byw y tu allan i Gymru wedi'u heithrio o'r dadansoddiadau ac maent wedi'u cynnwys yn y categori ‘ACEHI preswyl y claf yn anhysbys’.

Ar gyfer y cyfrifiad canran, mae'r enwadur yn seiliedig ar boblogaeth cyfrifiad 2021.

Dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022 ymlaen y mae data ar gael. Gan fod y mesur i oedolion yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o 24 mis, y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar ei chyfer yw'r 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw'n ôl am wiriadau deintyddol wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Mae'r canllawiau'n argymell hefyd nad yw'r cyfnod adalw hwyaf i blant (o dan 18 oed) yn hwy na 12 mis. Felly, mae ystadegau ar oedolion sy'n cael eu trin yn seiliedig ar y cyfnod blaenorol o 24 mis; mae'r ystadegau ar gyfer plant yn cyfeirio at y cyfnod blaenorol o 12 mis.

Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.

Ansawdd ystadegol

Mae rhai cleifion ym mhob cyfnod a oedd yn byw yng Nghymru ar gyfer eu triniaeth gynharach ond wedi hynny yn byw yn Lloegr ar gyfer eu triniaeth ddiweddaraf. Gan mai'r cofnodion diweddaraf sy'n cael eu cadw, nid yw'r cleifion hyn o Gymru wedi'u cynnwys yn y dadansoddiadau ac maent wedi'u cynnwys yn y categori ‘ACEHI preswyl y claf yn anhysbys’. Mae'r nifer yn fach iawn, sef llai na 0.1% o'r holl gleifion sy'n cael eu trin.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru