Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl mesur Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN)
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026
Diweddariadau
- 22ain Ebrill 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau deintyddol
- Cyfnod amser dan sylw
- Mawrth 2022 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl mesur Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN) ar gyfer pob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i oedolion a phob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i blant.
- Cyfrifo neu gasglu data
Seilir yr ystadegau ar gleifion sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y data hwn yn cynnwys trigolion o'r tu allan i Gymru sy'n cael eu trin yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys trigolion o Gymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru. Y rheswm dros hyn yw bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata FP17W o bractisau deintyddol yng Nghymru yn unig.
Defnyddir set ddata lefel FP17W ar wahân, a ddarperir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, i olrhain niferoedd cleifion sy'n cael eu trin yn ôl nodweddion cleifion. Mae'r cyfansymiau sy'n deillio o'r set ddata hon yn uwch na'r prif ffigurau cyfatebol a gyhoeddwyd ar StatsCymru: Oedolion a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 24 mis diwethaf a Plant a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf oherwydd bod cleifion y cynhaliwyd eu triniaeth ddiweddaraf o fewn cyfnod cyfeirio yn Lloegr, ond a gafodd driniaeth gynharach yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'u heithrio o'r prif fesurau ond wedi'u cadw yn set ddata lefel FP17W. Ar lefel Cymru, nid yw'r cyfrif ar gyfer oedolion a gafodd eu trin dros y 24 mis diwethaf yn fwy na 0.9% yn uwch, tra bod y cyfrif ar gyfer plant a gafodd eu trin dros y 12 mis diwethaf ddim mwy na 4.3% yn uwch.
Rhaglen sy'n caniatáu i ddeintyddion y GIG gynnal asesiadau risgiau ac anghenion mewn ffordd systematig yw ACORN. Mae deintyddion yn defnyddio system sgorio â chod lliw i asesu gwahanol agweddau ar iechyd deintyddol a risgiau cleifion yn unol â chanllawiau'r pecyn cymorth, gyda gwyrdd yn dynodi risg/angen isel a choch yn dynodi risg/angen uchel. Mae data ACORN wedi'i gasglu a'i ddilysu o fis Ebrill 2022.
Dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022 ymlaen y mae data ar gael. Gan fod y mesur i oedolion yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o 24 mis, y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar ei chyfer yw'r 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw'n ôl am wiriadau deintyddol wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Mae'r canllawiau'n argymell hefyd nad yw'r cyfnod adalw hwyaf i blant (o dan 18 oed) yn hwy na 12 mis. Felly, mae ystadegau ar oedolion sy'n cael eu trin yn seiliedig ar y cyfnod blaenorol o 24 mis; mae'r ystadegau ar gyfer plant yn cyfeirio at y cyfnod blaenorol o 12 mis.
Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.
- Ansawdd ystadegol
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru