Gallu myfyrwyr addysg uwch o Gymru i siarad Cymraeg
Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2027
Diweddariadau
- 28ain Gorffennaf 2026
Wedi'i ddiweddaru gyda data 2024/25.
Mae data ar gyfer 2023/24 wedi cael ei ddiwygio i gynnwys data wedi’i ddiweddaru gan Brifysgol De Cymru. Effaith hyn fu gostyngiad o 45 yn nifer y cofrestriadau ar y cyfan a chynnydd o 1,010 yn nifer y cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru.
- 15fed Gorffennaf 2026
Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data.
- 27ain Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
- Ffynhonnell y data
- Cofnod myfyrwyr
- ID y set ddata
- fcda7d58-48ac-4cd0-8955-3193446cc2c8
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data'n bwrw golwg ar allu myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn darparwyr uwch yng Nghymru i siarad Cymraeg. Mae'r data'n cynnwys nifer a chyfran y cofrestriadau gan fyfyrwyr ag amrywiaeth o alluoedd yn y Gymraeg.
Gellir dadansoddi'r data yn ôl:
Blwyddyn academaidd - 1 Awst i 31 Gorffennaf, e.e. 2024/25 yw 1 Awst 2024 i 31 Gorffennaf 2025.
Marciwr newydd-ddyfodiad - yr holl gofrestriadau neu'r rhai ym mlwyddyn gyntaf eu hastudiaethau.
Lefel astudio
Dull astudio - amser llawn neu ran-amser
Darparwr
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data gan ddarparwyr addysg uwch am fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliad. Ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys casglu data am allu'r myfyrwyr yn y Gymraeg.
Poblogaeth a gynhwysir
Y cofrestriadau a gynhwysir yw'r rhai ym mhoblogaeth gofrestru safonol HESA yn narparwyr AU Cymru (a'r myfyrwyr yr oedd eu cyfeiriad parhaol cyn cofrestru yng Nghymru). Gall myfyriwr fod â mwy nag un cofrestriad mewn blwyddyn academaidd, ac os felly yna cyfrifir pob cofrestriad ar wahân.
I gael ei gynnwys ym mhoblogaeth safonol HESA, mae angen i gofrestriad fod yn weithredol mewn astudiaeth o leiaf bythefnos ar ôl dyddiad cychwyn eu hymgysylltiad neu'r un dyddiad mewn blynyddoedd dilynol. Nid yw myfyrwyr sy'n ysgrifennu eu hymchwil (ac sydd heb unrhyw astudiaeth weithredol) ar ôl y dyddiad blynyddol hwn yn cael eu cynnwys yn y boblogaeth, nac ychwaith fyfyrwyr y disgwylir iddynt astudio am bythefnos neu lai ac nad ydynt yn cwblhau eu hastudiaethau nac yn ennill cymhwyster. Nid yw myfyrwyr segur, myfyrwyr ymweliadol sy'n dod i mewn na myfyrwyr cyfnewid o dramor na myfyrwyr sy'n astudio am eu holl raglen astudio y tu allan i'r DU yn cael eu cynnwys ychwaith.
Mae'r holl fodiwlau sydd â pheth gweithgarwch yn y flwyddyn academaidd berthnasol yn cael eu cynnwys.
Gallu i siarad Cymraeg
Hunanasesiad o allu myfyriwr i siarad Cymraeg. Cyn 2022/23, roedd pedwar opsiwn:
- Siaradwr Cymraeg rhugl
- Siaradwr Cymraeg nad yw’n rhugl
- Ddim yn siaradwr Cymraeg
- Anhysbys
Yn 2022/23, fe newidiodd y dull casglu ac fe ehangwyd yr opsiynau ar gyfer siaradwyr nad ydynt yn rhugl i:
- Siaradwr Cymraeg: yn gallu siarad cryn dipyn
- Siaradwr Cymraeg: yn gallu siarad ychydig yn unig
- Siaradwr Cymraeg: yn gallu dweud ychydig o eiriau
Daeth yn bosibl dychwelyd myfyrwyr fel siaradwyr Cymraeg ond â lefel hyfedredd anhysbys hefyd.
- Ansawdd ystadegol
Mae gwerthoedd data â chod [c] wedi cael eu celu gan mai canrannau ydynt a gyfrifwyd lle mae’r enwadur yn llai na 22.5.
Gallu i siarad Cymraeg
Casglwyd Cofnod Myfyrwyr HESA 2022/23 gan ddefnyddio system casglu data a model data newydd a gyflwynwyd gan y rhaglen drawsnewid ‘Dyfodol Data’. Roedd y system a’r model newydd yn newid sylweddol i’r broses gasglu ac roedd nifer uwch o heriau a materion o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Roedd un o’r newidiadau’n ymwneud â sut yr oedd gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yn cael ei chasglu. Roedd gofyn cael disgrifiad mwy manwl o’r gallu i siarad yr iaith ymhlith siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl, yn ogystal â chasglu gwybodaeth am allu myfyrwyr i ddarllen, ysgrifennu a deall Cymraeg. Oherwydd graddfa’r newid ar y cyfan, roedd hyn yn broblemus i rai darparwyr ac fe arweiniodd at ostyngiad yn ansawdd y data yn 2022/23. Yn 2022/23, roedd nifer uwch nag arfer o fyfyrwyr â sgiliau Cymraeg anhysbys ac fe gafodd rhai darparwyr anhawster categoreiddio siaradwyr nad ydynt yn rhugl yn gywir.
Fe wellodd y materion hyn yn 2023/24 a 2024/25, gydag ansawdd y data’n nes at yr hyn oedd cyn y newid yn y modd y cesglir y data. Fodd bynnag, roedd cyfran uchel o allu Cymraeg anhysbys o hyd ym Mhrifysgol De Cymru ac yn y Brifysgol Agored.
I Brifysgol De Cymru, fe achoswyd hyn i raddau helaeth gan broblem gyda’r meddalwedd a arweiniodd at ddychwelyd data gwrthgyferbyniol pan oedd gwybodaeth myfyriwr yn cael ei diweddaru ac felly nid oeddem yn gallu adnabod beth oedd yr wybodaeth gywir ar gyfer y myfyrwyr hyn. Mae Prifysgol De Cymru’n gweithio gyda’u cyflenwr meddalwedd ar y broblem hon ac yn disgwyl i nifer y cofrestriadau yr effeithir arnynt fod yn llai yn 2025/26.
Roedd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru yn hanesyddol lefel uchel o fyfyrwyr â gallu anhysbys i siarad Cymraeg. Felly yr oedd hi hefyd cyn cyflwyno Dyfodol Data oherwydd anawsterau casglu’r wybodaeth hon gan eu myfyrwyr. Nid oedd ganddynt unrhyw fyfyrwyr yn y categori siaradwr Cymraeg nad yw’n rhugl ychwaith gan na ofynnwyd i’w myfyrwyr am y categorïau gallu mwy manwl a gyflwynwyd yn 2022/23, gan olygu mai dim ond fel siaradwyr Cymraeg â gallu anhysbys y gellid eu dychwelyd. Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyflwyno cwestiynau ychwanegol i gasglu’r wybodaeth hon, ac mae’n debygol y gwelir gwelliannau ar gyfer casglu data 2026/27.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae niferoedd y cofrestriadau wedi cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf.
Mae canrannau wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio ffigyrau heb eu talgrynnu ac wedi cael eu talgrynnu i’r 1% agosaf. Os yw’r enwadur ar gyfer canran yn llai na 22.5 yna mae’r ganran wedi cael eu chelu.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Medr
- E-bost cysylltu
- YstadegauAU@medr.cymru