Ymrestriadau myfyrwyr a nifer y cymwysedigion o Gymru mewn darparwyr addysg uwch ledled y DU yn ôl nodweddion personol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Nodweddion personol
18 o 18 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gwlad y darparydd AU
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dull astudio
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Lefel astudio
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Marciwr newydd-ddyfodiad
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027

Diweddariadau

29ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Ffynhonnell y data
Cofnod myfyrwyr

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data'n dangos nifer yr ymrestriadau a nifer y cymwysedigion mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru.

Gellir dadansoddi'r data yn ôl:

  • Blwyddyn academaidd - 1 Awst i 31 Gorffennaf, e.e. 2024/25 yw 1 Awst 2024 i 31 Gorffennaf 2025.

  • Gwlad y darparydd

  • Marciwr newydd-ddyfodiad - p'un a yw myfyrwyr ar flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau ai peidio.

  • Lefel astudio

  • Dull astudio - amser llawn neu ran-amser

  • Nodweddion personol - naill ai grŵp oedran, a oes gan fyfyriwr anabledd hysbys ai peidio, neu gefndir ethnig

  • Rhyw - rhyw'r myfyriwr yn hytrach na'r rhyw y mae'n uniaethu ag ef. Mae myfyrwyr lle dychwelwyd hyn fel 'Arall', 'Ddim ar gael' neu 'Gwybodaeth wedi'i gwrthod' wedi'u cynnwys yn y ffigyrau ar gyfer pob cofrestriad.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data gan ddarparwyr addysg uwch am fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliad.

Y boblogaeth ymrestru

Yr ymrestriadau sydd wedi'u cynnwys yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys ym mhoblogaeth gofrestru safonol HESA yn narparwyr AU Cymru. Gall myfyriwr gael mwy nag un ymrestriad mewn blwyddyn academaidd, os felly yna cyfrifir pob ymrestriad ar wahân.

I gal eich cynnwys ym mhoblogaeth safonol HESA, mae angen i'r sawl sy'n ymrestru fod yn astudio'n weithredol o leiaf bythefnos ar ôl ei ddyddiad dechrau ymgysylltu neu ben-blwyddi dilynol y dyddiad hwnnw. Mae myfyrwyr sy'n ysgrifennu (ac nad oes ganddynt unrhyw astudiaeth weithredol) ar ôl y dyddiad pen-blwydd hwn wedi'u heithrio o'r boblogaeth, yn ogystal â myfyrwyr y disgwylir iddynt astudio am bythefnos neu lai ac nad ydynt yn cwblhau eu hastudiaethau nac yn ennill cymhwyster. Mae myfyrwyr sy'n cael seibiant, myfyrwyr sy'n dod ar ymweliad ac ar gynllun cyfnewid o wledydd tramor, a myfyrwyr sy'n astudio eu holl raglen astudio y tu allan i'r DU hefyd wedi'u heithrio.

Poblogaeth y cymwysedigion

Y boblogaeth a ddefnyddir ar gyfer y data cymwysedigion yw'r boblogaeth a gasglodd HESA ar gyfer Cymwysterau. Mae'r boblogaeth hon yn cynnwys ymrestriadau gan fyfyrwyr sy'n gysylltiedig â dyfarnu cymhwyster addysg uwch yn ystod y flwyddyn academaidd berthnasol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a ddyfarnwyd i’r rhai a oedd wedi cymryd saib o'u hastudiaethau, ar ôl i astudiaethau gweithredol ddod i ben, a rhai a oedd yn barod i ysgrifennu am eu gwaith ymchwil.

Data anabledd

Cesglir gwybodaeth am anabledd yn seiliedig ar hunanasesiad myfyrwyr, ac nid oes rheidrwydd arnynt i roi gwybod am unrhyw anableddau sydd ganddynt. Cesglir yr wybodaeth hon bob blwyddyn felly gallai newid dros amser.

Data ethnigrwydd

Dim ond ar gyfer myfyrwyr y mae eu cyfeiriad parhaol yn y DU, Guernsey, Jersey neu Ynys Manaw cyn dechrau astudio y cesglir gwybodaeth am ethnigrwydd, ac fe'i cesglir ar sail hunanasesiad y myfyriwr. Cesglir yr wybodaeth hon bob blwyddyn felly gallai newid dros amser.

Ansawdd ystadegol

Codau

Mae gwerthoedd data â chod [t] naill ai’n gyfansymiau neu’n is-gyfansymiau.

Gwahaniaethau o gymharu â ffigurau a gyhoeddwyd gan HESA

Ceir gwahaniaethau bach iawn o ran nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi ymrestru yn y data hyn o gymharu â'r hyn a gyhoeddwyd gan HESA, er enghraifft ceir gwahaniaeth o 5 rhwng cyfanswm yr ymrestriadau yn 2016/17 a 2017/18. Mae'r gwahaniaethau hyn yn deillio o wahaniaethau yn fersiwn y data a ddefnyddir ar gyfer data hŷn a gwahaniaethau yn y modd y caiff rhai newidynnau eu cydgasglu.

Cyfran fwy o gofnodion anhysbys mewn data ethnigrwydd o 2022/23

Cyflwynwyd model casglu data newydd er mwyn casglu data Cofnod Myfyrwyr HESA o flwyddyn academaidd 2022/23. Cyflwynodd y model newydd gryn newid i'r broses gasglu, ac fe gafwyd nifer fwy o heriau a phroblemau o gymharu â'r blynyddoedd cynt.

Un broblem fu cynnydd yn nifer y cofnodion a ddychwelwyd gyda'r wybodaeth am ethnigrwydd yn anhysbys. Yn y pum mlynedd cyn 2022/23, dychwelwyd tua 1.5% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru gydag ethnigrwydd anhysbys. Yn 2022/23 cynyddodd cyfran y cofnodion anhysbys i 2.5% cyn gostwng i 2.2% yn 2023/24 a 2.3% yn 2024/25.

Ceir gwybodaeth fwy cyffredinol am faterion ansawdd yng Nghofnod Myfyrwyr HESA ar wefan HESA.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Defnyddir ffigurau heb eu talgrynnu i gyfrifo'r cyfansymiau, ac yna talgrynnu i'r 5 agosaf. Mae'n bosib felly na fyddant yn hafal i swm y cydrannau.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Medr
E-bost cysylltu
YstadegauAU@medr.cymru