Gweithgareddau mewn addysg bellach, prentisiaethau neu ddysgu cymunedol yn ôl darparydd, iaith y rhaglen, grŵp oedran a maes pwnc sector

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dull y rhaglen
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Darparwr
45 o 45 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gweithgaredd safonedig
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp oedran
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Maes pwnc sector
17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhuglder Cymraeg
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Iaith y rhaglen
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026

Diweddariadau

26ain Chwefror 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
Cyfnod amser dan sylw
Awst 2016 i Gorffennaf 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Gweithgareddau dysgu a wnaed fel rhan o addysg bellach mewn colegau, dysgu cymunedol awdurdod lleol, neu brentisiaethau.

Ni chaiff addysg uwch, gradd-brentisiaethau na dosbarthiadau chwech eu cynnwys.

Mae'r set ddata'n cynnwys y newidynnau canlynol:

Blwyddyn academaidd: O 1 Awst tan 31 Gorffennaf.

Dull y rhaglen: Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy'n astudio cymwysterau Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft BTECs). Ystyr dysgu cymunedol awdurdod lleol yw gweithgareddau dysgu cymunedol a gynhelir gan awdurdodau lleol, ac mae'n cynnwys gweithgareddau dysgu a gynhelir gan sefydliad addysg bellach dan gontract.

Gweithgaredd safonedig: Ystyr cymhwyster a reoleiddir yw unrhyw gymhwyster yng nghronfa ddata Cymwysterau Cymru.Nodau dysgu nas rheoleiddir yw cymwysterau neu weithgareddau safonedig eraill (er enghraifft Trwydded DVLA Categori C).Ymhlith y gweithgareddau eraill mae unrhyw weithgaredd heb ei achredu y bydd darparwr unigol yn penderfynu arno (er enghraifft Tiwtorial Grŵp, neu Ysgrifennu Llythyr Eglurhaol).

Darparwr: Darparwr arweiniol y gweithgareddau dysgu. Os bydd darparwyr wedi uno, bydd y data hanesyddol yn cynnwys yr holl ddarparwyr blaenorol. Darparwyr nad ydynt yn bodoli fel darparwyr arweiniol yn y flwyddyn ddiweddaraf yw darparwyr hanesyddol.

Maes pwnc sector: Mae'n dilyn system ddosbarthu SSA.

Cyfrwng cyflwyno: Faint o'r gweithgaredd dysgu a gynhaliwyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff gweithgareddau dysgu sy'n addysgu'r Gymraeg eu categoreiddio ar wahân.

Rhuglder Cymraeg: A yw'r myfyriwr yn ystyried ei hun yn siaradwr Cymraeg.

Grŵp oedran: Oedran y dysgwr ar 31 Awst y flwyddyn academaidd.

Cyfrifo neu gasglu data

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yw’r system casglu data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i alluogi darparwyr AB, dysgu seiliedig-ar-waith a dysgu cymunedol awdurdodau lleol i gyflwyno data unigoledig ar-lein ar ddysgwyr, a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau dysgu.

Mae systemau Llywodraeth Cymru’n llwytho’r data ar gronfa ddata i hwyluso gwaith dadansoddi. Wedyn trosglwyddir y gronfa ddata i Medr i’w phrosesu a’i dadansoddi. Ceir rhagor o wybodaeth am LLWR gan gynnwys llawlyfrau cymorth i ddefnyddwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.

Caiff y data a ddefnyddir yn yr ystadegau hyn ei echdynnu o LLWR ar y dydd Iau yn y drydedd wythnos lawn ym mis Rhagfyr.

Prif ddiben LLWR yw darparu data ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol i hwyluso’r broses o gynllunio a chyllido darpariaeth ddysgu a gyflwynir. Mae data LLWR hefyd yn sail ar gyfer monitro perfformiad a deilliannau, goleuo strategaeth a datblygu a darparu ystadegau ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ansawdd ystadegol

Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau. Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda [c].

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Medr
E-bost cysylltu
ystadegau@medr.cymru