Data Gwasanaethau Gofal AGC: Gwasanaethau, Cofrestiadau, ac Achosion o Ganslo yn ôl Math o Wasanaeth ac Ardal
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026
Diweddariadau
- 14eg Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Dim dynodiad
- Darparwr data
- Arolygiaeth Gofal Cymru
- Ffynhonnell y data
- System busnes cofrestru a rheoleiddio
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2020 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn cyflwyno ystadegau blynyddol ar sefydliadau ac unigolion sy'n cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae'n cwmpasu gwasanaethau cofrestredig a gwasanaethau sydd wedi'u hatal ac mae'n cynnwys data ar y canlynol:
- Nifer y gwasanaethau a'r lleoedd
- Cofrestriadau ac achosion o ganslo.
Caiff ffigurau eu dadansoddi yn ôl math o wasanaeth a lleoliad daearyddol. Mae cwmpas daearyddol yn amrywio yn ôl math o wasanaeth: caiff Gwasanaethau Cymorth Cartref eu cofnodi yn ôl Ardaloedd Gofal Cartref, sy'n cyd-fynd â ffiniau byrddau iechyd lleol. Caiff yr holl fathau eraill o wasanaethau eu cofnodi yn ôl awdurdod lleol. Gall rhai gwasanaethau fod y tu allan i Gymru neu mewn ardaloedd ag awdurdod dosbarth anhysbys.
I gyfrifo'r cyfansymiau ar gyfer pob math o wasanaeth (sydd wedi'u marcio â [t]), rhaid cyfansymio data ar draws y canlynol:
- Gwasanaethau yng Nghymru (yn ôl awdurdod lleol neu fwrdd iechyd)
- Gwasanaethau y tu allan i Gymru
- Gwasanaethau ag awdurdod dosbarth anhysbys.
- Cyfrifo neu gasglu data
System fusnes cofrestru a rheoleiddio, Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Ansawdd ystadegol
Mae achosion o gofrestru, canslo, a newidiadau i gofrestru yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, ond mae nifer y gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru ar unrhyw un adeg yn weddol gyson ar y cyfan.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- AGCGwybodaeth@llyw.cymru