Mesur Iechyd Meddwl Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd Iechyd Preswyl
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
117 o 117 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:27 Mai 2026

Diweddariadau

25ain Chwefror 2026

Chwarter newydd wedi’i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo hynny’n berthnasol.

26ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Gwybodaeth reoli
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Casglu data Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2016 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae Rhan 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn rhoi'r hawl i bob oedolyn sy'n cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd atgyfeirio ei hun yn ôl i'r gwasanaethau hynny, heb orfod gweld meddyg teulu neu fynd i rywle arall i gael atgyfeiriad yn gyntaf, o fewn 3 blynedd i'w ddyddiad rhyddhau. Yn dilyn asesiad Rhan 3, mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau Iechyd Meddwl ddarparu adroddiad ysgrifenedig i unigolyn, sy'n dweud a nodwyd unrhyw wasanaethau a allai wella neu atal dirywiad iechyd meddwl unigolyn, heb fod yn hwyrach na 10 dyddiad gwaith ar ôl cwblhau'r asesiad.

Mae'r tabl hwn yn darparu data misol ar adroddiadau asesu Rhan 3 a anfonir gan bob bwrdd iechyd ledled Cymru. Dangosir data o fis Ebrill 2016 fel cyfanswm ar gyfer pob oedran.

Mae'r tabl yn dangos:

  • nifer yr adroddiadau canlyniadau asesiadau a anfonwyd
  • canran yr adroddiadau canlyniadau asesiadau a anfonwyd o fewn 10 diwrnod i asesiad

Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, ni lwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gyflwyno data oherwydd problem TG. Felly, cafodd y data ar gyfer mis Mawrth 2022 ei ddwyn ymlaen bob mis i gwmpasu'r cyfnod hwn. Ym mis Ebrill 2023, ailddechreuodd y bwrdd iechyd gyflwyno data.

Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Awst 2022 a mis Hydref 2024, ni lwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyflwyno data gan fod system TG iechyd meddwl newydd yn cael ei rhoi ar waith. Felly, cafodd y data ar gyfer mis Gorffennaf 2022 ei ddwyn ymlaen bob mis i gwmpasu'r cyfnod hwn. Ym mis Tachwedd 2024, ailddechreuodd y bwrdd iechyd gyflwyno data.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn cael ffurflenni adrodd Iechyd Meddwl bob mis gan bob bwrdd iechyd. Mae'r safonau sy'n ymwneud â'r ffurflenni wedi'u hadolygu a'u pasio gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) a Grŵp Datblygu Gwybodaeth Cymru (WIDG) (a elwid gynt yr Is-grŵp Hysbysiad Newid Safonau Data).

Ansawdd ystadegol

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn lanlwytho'r data a ddaw i law bob chwarter. Mae'r system prosesu data a ddefnyddir yn sicrhau nad yw data ar goll o'r ffurflenni. Yna cynhelir gwiriadau dilysu a gwirio pellach bob chwarter, gan gynnwys, er enghraifft, gwirio tueddiadau yn y data ac unrhyw ddirywiad sylweddol mewn perfformiad yn erbyn y targedau a osodwyd. Mae unrhyw annormaleddau yn y data yn cael eu nodi a'u codi gyda'r bwrdd iechyd perthnasol, gan alluogi'r bwrdd iechyd i wirio, cywiro neu wneud sylwadau ar eu data ac i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol lle bo hynny'n berthnasol.

Os canfyddir bod gwerth data a gyhoeddwyd yn flaenorol yn anghywir a'i fod wedyn yn cael ei gywiro neu ei fod wedi'i newid i wella cywirdeb, ychwanegir r at y gwerth data perthnasol yn y cyhoeddiad nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym [Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: adroddiad ansawdd] (https://www.llyw.cymru/mesur-iechyd-meddwl-cymru-2010-adroddiad-ansawdd)

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
hss.performance@llyw.cymru