Gwariant Alldro Ysgol Dirprwyedig yn ôl ysgol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026
Diweddariadau
- 23ain Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Casgliad data alldro adran 52 (S52O)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2009 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
O dan adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu datganiad alldro ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Diben y datganiad yw darparu gwybodaeth ar wir wariant yr awdurdodau lleol ar addysg.
Mae'r data sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn deillio o ran 1 o Ddatganiadau Alldro Addysg Adran 52 a lenwir gan awdurdodau lleol.
Mae'r data a ddangosir yn yr adroddiadau yn cynnwys gwariant wedi'i ddirprwyo neu ei ddatganoli i ysgolion yn y flwyddyn ariannol yn unig, ac nid yw'n cynnwys unrhyw arian a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol a'i wario ar ran ysgolion.
Mae'r data hefyd yn dangos lefelau'r cronfeydd wrth gefn y mae ysgolion unigol yn eu cario ymlaen o un flwyddyn i'r llall.
Dim ond o 2006/7 ymlaen y daeth ysgolion meithrin yn rhan o wariant alldro wedi'i ddirprwyo felly nid ydynt wedi'u dangos fel rhan o'r data hyn ar gyfer y blynyddoedd cynharach.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data y gofynnir amdanynt gan awdurdodau lleol, yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth.
- Ansawdd ystadegol
Cesglir y data drwy gyfrwng arolwg 100% felly ni chaiff unrhyw amcangyfrif o'r ffigurau ei gyfrifo, ac o'r herwydd, nid oes unrhyw wall samplu.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cyllid@llyw.cymru