Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio sydd mewn gwaith yn ôl galwedigaeth, chymhwyster a flwyddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026
Diweddariadau
- 19eg Rhagfyr 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2011 i Rhagfyr 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Cyflwynir data ar gyfer oedolion o oedran gweithio ar sail dynion a menywod 18-64 - yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Grwp galwedigaeth oedolion o oedran gweithio mewn cyflogaeth yn ol prif swydd yn ol Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol (DGS) 2010. Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn lefelau cymwysterau. Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion cenedlaethol (8 - Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) a dwy garreg filltir genedlaethol gysylltiedig. Mae’r ystadegau hyn, ynghyd â’r dangosydd cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol wedi’u cynnwys yn benodol yn Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data a ddangosir wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2004 ymlaen, ac o Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol Cymru ar gyfer 2001-2003; mae’r ddau’n arolygon o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
O 2001 ymlaen, roedd data’r Arolwg blynyddol o’r Llafurlu Lleol a gasglwyd yng Nghymru wedi’u seilio ar sampl oedd cryn dipyn yn fwy.
Mae’r arolwg yn gofyn i’r ymatebwyr am y cymwysterau sydd ganddynt, ac o’r wybodaeth hon cyfrifir y cymhwyster uchaf sydd gan yr ymatebydd. Caiff y cymwysterau uchaf eu grwpio i lefelau’r. Rhoddir ffigurau ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cymwysterau ar lefel benodol o leiaf, a chymwysterau hyd at a chan gynnwys lefel benodol.
O’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. O fis Medi 2004 ymlaen, ehangwyd y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) a rhannwyd y lefelau blaenorol 4 a 5 i lefelau manylach (4-8). Dangosir data yn awr yn unol â’r dosbarthiad hwn.
Does dim modd cymharu'r ystadegau a gyflwynir yma ar gyfer 2022 gyda'r blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau i’r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r cwestiynau, wedi’u seilio’n flaenorol ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC), wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae rhagor o fanylion ynghylch hyn i’w gweld yn Gwybodaeth am Ansawdd y datganiad ystadegol. Ers 2004, mae'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu fel data blynyddol treigl, sy'n cael eu diweddaru bob tri mis. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl yn dilyn y calendr ac mae'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a ddangosir yma yn ymdrin â'r cyfnod 1 Ionawr 2011 i 31 Rhagfyr 2011.
- Ansawdd ystadegol
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n seiliedig ar amcangyfrifon sampl ac felly'n amodol ar wahanol raddau o amrywioldeb h.y. mae gwerth go iawn unrhyw fesuriad yn deillio o amrywiaeth y gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod neu'r amrywioldeb hwn yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu; er enghraifft, mae data awdurdod lleol yn amodol ar fwy o amrywioldeb na data rhanbarthol.
Dosbarthwyd yr amcangyfrifon hyn yn flaenorol fel ystadegau swyddogol achrededig. Mae'r ABB wedi gweld gostyngiad mewn meintiau samplau dros y blynyddoedd diwethaf, o ystyried hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ail bwyso i'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae'r Swyddfa Rheolei Ystadegau (SWRY) wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ail-ddynodi'r amcangyfrifon fel ystadegau swyddogol (SWRY).
Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru, fodd bynnag, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaeth llai neu is-grwpiau poblogaeth yn llai dibynadwy.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae canrannau wedi'u talgrynnu i un lle degol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru