Absenoldeb cyson (trothwy 10%) disgyblion o oedran ysgol uwchradd yn ôl rhyw a grŵp blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn academaidd
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp blwyddyn
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Absennol yn gyson
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:2027

Diweddariadau

29ain Medi 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cofnod presenoldeb disgyblion
Cyfnod amser dan sylw
Medi 2013 i Awst 2026
ID y set ddata
d7e226b3-a59d-44e2-a05e-4fffb375cd0b

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r set ddata hon yn cyflwyno absenoldeb cyson ar y trothwy 10% ar gyfer disgyblion yn y casgliad presenoldeb blynyddol ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yng Nghymru yn ôl rhyw a grŵp blwyddyn. Mae’n cynnwys canran y disgyblion yn ôl statws absenoldeb cyson a chanrannau presenoldeb ac absenoldeb ar gyfer y disgyblion hynny.

Cyfrifo neu gasglu data

Cesglir data presenoldeb yn flynyddol oddi wrth ysgolion a gynhelir yng Nghymru drwy’r casgliad statudol o ddata presenoldeb ysgolion. Mae’r casgliad ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn cwmpasu disgyblion 11 i 15 oed a phresenoldeb o ddechrau’r flwyddyn academaidd hyd at ŵyl banc diwedd mis Mai. Cyfrifir canrannau presenoldeb ar sail y sesiynau hanner diwrnod posibl a’r sesiynau absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig. Cyflwynir absenoldeb cyson ar y trothwy 10%, yn seiliedig ar 10% o’r nifer mwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol. Mae gwerthoedd hanesyddol ar gyfer absenoldeb cyson yn y setiau data hyn eisoes wedi’u hailgyfrifo ar y sail 10% hon.

Ansawdd ystadegol

Nid oes data o’r casgliad presenoldeb blynyddol ar gael ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019/20, 2020/21 na 2021/22 oherwydd bod y casgliad wedi cael ei atal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r casgliad ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn cwmpasu presenoldeb hyd at Ŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai yn unig, ac nid oes modd ei gymharu’n uniongyrchol â’r casgliad blwyddyn lawn ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae’r holl ganrannau a gyhoeddir wedi’u talgrynnu i un lle degol.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.ysgolion@llyw.cymru