Nifer yr apwyntiadau offthalmoleg cleifion allanol a fynychwyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd Iechyd y Darparwr
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
71 o 71 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:5 Mai 2026

Diweddariadau

7fed Ebrill 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo'n berthnasol.

3ydd Mawrth 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo'n berthnasol.

3ydd Chwefror 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo'n berthnasol. Yn ystod 2025, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau cataractau offthalmoleg ar sail ranbarthol. O fis Rhagfyr 2025 ymlaen, mae cleifion sy'n cael eu gweld a'u trin gan wasanaeth rhanbarthol De-ddwyrain Cymru yn cael eu cofnodi ar wahân fel darparwr newydd yn y data. Cyn y dyddiad hwn, roedd y cleifion hyn yn cael eu cynnwys o fewn data un o dri bwrdd iechyd de-ddwyrain Cymru.

6ed Ionawr 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo'n berthnasol.

2ail Rhagfyr 2025
4ydd Tachwedd 2025
7fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Gwybodaeth reoli
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Mesurau canlyniadau gofal llygaid, Profforma cyflwyno misol
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2020 i Chwefror 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae offthalmoleg yn gangen o feddygaeth sy'n ymdrin â gwneud diagnosis o anhwylderau’r llygaid a’u trin. Mae'r tabl hwn yn darparu data ar nifer yr apwyntiadau offthalmoleg cleifion allanol newydd a dilynol a fynychwyd bob mis ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru.

Mae'r tabl yn dangos, ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg cleifion allanol a fynychwyd ac a aseswyd fel Ffactor Risg Iechyd (HRF) R1:

  • cyfanswm yr apwyntiadau a fynychwyd
  • nifer yr apwyntiadau a fynychwyd a oedd wedi aros o fewn eu dyddiad targed ar gyfer apwyntiad unigol neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed
  • canran yr apwyntiadau a fynychwyd a oedd wedi aros o fewn eu dyddiad targed ar gyfer apwyntiad unigol neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed

Rhoddir statws HRF R1 i lwybr os yw claf yn wynebu risg o niwed na ellir ei wrthdroi neu ganlyniad andwyol sylweddol ow yw ei ddata targed wedi'i fethu

Cyfrifo neu gasglu data

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn cael ffurflenni adrodd Mesurau Blaenoriaethu Gofal Llygaid bob mis gan bob bwrdd iechyd. Mae'r safonau sy'n ymwneud â'r ffurflenni wedi'u hadolygu a'u pasio gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) a Grŵp Datblygu Gwybodaeth Cymru (WIDG) (a elwid gynt yr Is-grŵp Hysbysiad Newid Safonau Data).

Ansawdd ystadegol

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn lanlwytho'r data a ddaw i law bob mis. Mae'r system prosesu data a ddefnyddir yn sicrhau nad yw data ar goll o'r ffurflenni. Yna cynhelir gwiriadau dilysu a gwirio pellach bob mis, gan gynnwys, er enghraifft, gwirio tueddiadau yn y data ac unrhyw ddirywiad sylweddol mewn perfformiad yn erbyn y targedau a osodwyd. Mae unrhyw annormaleddau yn y data yn cael eu nodi a'u codi gyda'r bwrdd iechyd perthnasol, gan alluogi'r bwrdd iechyd i wirio, cywiro neu wneud sylwadau ar eu data ac i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol lle bo hynny'n berthnasol.

Os canfyddir bod gwerth data a gyhoeddwyd yn flaenorol yn anghywir a'i fod wedyn yn cael ei gywiro neu ei fod wedi'i newid i wella cywirdeb, ychwanegir r at y gwerth data perthnasol yn y cyhoeddiad nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr [Adroddiad Ansawdd Mesurau Gofal Llygaid] (https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2019-06/mesurau-gofal-llygaid-ar-gyfer-cleifion-allanol-y-gig-adroddiad-ansawdd.pdf)

Talgrynnu wedi'i wneud

Canranau wedi eu cylchdroi i un lle degol

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
hss.performance@llyw.cymru