Ceisiadau misol cronnus ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn ôl blwyddyn academaidd.

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
14 o 14 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Mis
12 o 12 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Carfan mynediad
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math cymorth
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:27 Tachwedd 2025

Diweddariadau

23ain Ebrill 2026

Data Mawrth 2026

26ain Mawrth 2026

Data Chwefror 2026

26ain Chwefror 2026

Data Ionawr 2026

29ain Ionawr 2026

Data Rhagfyr 2025

18fed Rhagfyr 2025

Gwellodd esboniadau metadata

27ain Tachwedd 2025
30ain Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Ffynhonnell y data
Data gweinyddol

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn cyflwyno'r nifer cronnol o geisiadau a ddaeth i law am gyllid myfyrwyr gan fyfyrwyr israddedig amser llawn sydd â’u domisil yng Nghymru a myfyrwyr cymwys o'r UE sy'n astudio cwrs addysg uwch yng Nghymru.

Mae'r garfan mynediad yn grwpio ymgeiswyr am gyllid myfyrwyr yn unol â'r rheoliadau cylid myfyrwyr a ddefnyddir i asesu angen yr ymgeisydd am gymorth. Mae ceisiadau am gyllid myfyrwyr yn cael eu cwmpasu gan amddiffyniad trosiannol sy'n golygu eu bod yn parhau i gael eu hasesu yn erbyn y rheoliadau sydd ar waith ar gyfer eu blwyddyn gyntaf o astudio (gan gynnwys myfyrwyr sy’n trosglwyddo o un cwrs llawnamser i gwrs llawnamser arall). Ni fydd myfyrwyr sy'n tynnu’n ôl o gwrs ac yn dechrau cwrs arall, neu sy'n dechrau cyfnod astudio newydd yn derbyn amddiffyniad trosiannol mwyach, a byddant yn cael eu hasesu o dan y trefniadau sydd ar waith ar gyfer eu blwyddyn astudio ddiweddaraf.

Dangosir ceisiadau ar gyfer tri math o gymorth; Cyllid Myfyrwyr, Benthyciadau Ffioedd Dysgu a Grantiau Ffioedd Dysgu. O dan Cyllid Myfyrwyr dangosir nifer y ceisiadau ar gyfer unrhyw fath o gymorth i fyfyrwyr israddedig amser llawn. Cafodd grantiau ffioedd dysgu eu dileu ar gyfer myfyrwyr newydd o 2018/19.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gweinyddu cyllid i fyfyrwyr addysg uwch ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r data hyn wedi'u cymryd o systemau gweinyddol y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac yn dangos ceisiadau a ddaeth i law hyd at ddydd Sul olaf bob mis calendr.

Yn gyffredinol, gall myfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr o fis Ebrill cyn i'w cwrs ddechrau, ond gall y mis y bydd modd gwneud cais amrywio bob blwyddyn.

Gall myfyrwyr sydd a'u domisil yng Nghymru a myfyrwyr cymwys o'r UE sy'n astudio yng Nghymru wneud cais. Roedd holl fyfyrwyr yr UE a oedd yn astudio yng Nghymru ac a ddechreuodd eu cwrs rhwng 2006/07 a 2020/21 yn gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu. O 2021/22 ymlaen, mae myfyrwyr yr UE sydd â hawliau gwarchodedig yn gymwys i gael benthyciad ffioedd Dysgu.

Ansawdd ystadegol

Gall y diweddariadau misol hyn roi syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, er y gall newidiadau yn y broses ymgeisio, megis amseru, effeithio ar gymariaethau.

Mae ceisiadau'n cael eu cyfrif o'r mis y maent yn cyrraedd un o'r cyfnodau canlynol: 1 Cymhwysedd heb ei Gwblhau; 2 Hawl heb ei Gwblhau; 3 Yn Disgwyl Asesiad gan yr AALl; 9 Yn Disgwyl Dilysiad; 10 Yn Disgwyl Cymeradwyaeth gan yr AALl; 12 Wedi'i Gymeradwyo; 18 Yn Meddu Arno Eisoes, 23 Wedi'i Gymeradwyo - Yn Disgwyl Llofnod.

Mae'n bosibl i nifer y ceisiadau neu ddyfarniadau ostwng o un mis i'r llall gan y bydd rhai o'r ceisiadau'n cael eu canslo neu'r myfyriwr yn tynnu allan o'r cwrs.

Mae gwybodaeth fwy manwl ar gael yng Nghyhoeddiad Ystadegol Cyntaf blynyddol SLC ym mis Tachwedd. Noder bod y data hwn yn dod o Adroddiadau Rheoli misol SLC nad ydynt yn seiliedig ar yr un diffiniadau ag a ddefnyddir ar gyfer y Cyhoeddiad Ystadegol Cyntaf, felly mae'r ffigurau a gyhoeddir ym mis Tachwedd ychydig yn wahanol i'r rhai yn y tablau hyn.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru