Athrawon yn ôl pynciau a ddysgir a mesur (cyfrif pennau, cyfwerth â pherson llawn ac oriau)
Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026
Diweddariadau
- 31ain Mawrth 2026
Mae adolygiad wedi'i neud i'r tabl athrawon yn ôl pynciau a ddysgir a mesur yn ystod y broses trawsnewid o'r gwasanaeth StatsCymru hen i'r newydd.
Roedd nifer bach o bynciau wedi’u heithrio o’r tabl cyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer 2021/22, 2022/23 a 2023/24 o ganlyniad problem gyda mapio codau. O ganlyniad mae ychydig o gofnodion newydd wedi’u ychwanegu i’r tabl a gwelwyd cynnydd bach yn y cyfanswm llawn.
- 27ain Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC)
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2019 i Awst 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY). Mae’r set ddata yma yn dangos y cyfrif pen a nifer cyfwerth ag amser llawn o athrawon, a'r oriau a ddysgir yn ôl pwnc mewn ysgolion wedi’u cynnal trwy awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl awdurdod lleol, cyfrwng gwers a mesur.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r wybodaeth ar y pynciau a ddysgir yn seiliedig ar amserlen dros bythefnos arferol yr ysgol. Mae’r ffigurau'n cynnwys athrawon sy’n dysgu disgyblion blwyddyn 7 ac uwch yn unig.
Ar gyfer y cyfrif pennau yn ôl pwnc, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn erbyn pob pwnc maent yn dysgu. Yn y cyfanswm, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn unig, pa bynnag nifer o bynciau maent yn dysgu. Felly, ni fydd swm y pynciau yn hafal i’r cyfanswm.
Ar gyfer cyfrifo FPE, mae athrawon yn cael eu rhannu yn ôl y gyfran o amser maent yn gwario yn dysgu pwnc penodol. Os mae athro yn gwario hanner ei amser yn dysgu Saesneg a hanner ei amser yn dysgu Drama, ar gyfer yr FPE maent yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Yn y cyfrif pen, bydd yr athro yma yn cyfri fel 1 yn erbyn bob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Ar lefel pwnc, y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r FPE, y mwyaf y posibiliad o athrawon yn dysgu’r pwnc hynny yn unig, ac o bosib yn awgrymu mwy o arbenigedd yn y pwnc.
Mae'r oriau yn adlewyrchu cyfanswm yr oriau a ddysgir yn yr amserlen dros bythefnos. Mae’r tri mesur yn gymharol a’i gilydd.
Cyhoeddwyd diweddariad i ganllawiau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhagfyr 2021. Pwrpas y trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yw i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru ynghyd â’r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fel cyflwynwyd yn Cymraeg 2050. Mae data ar gyfer 2024/25 ac ymlaen yn defnyddio’r system categoreiddio gan ddisodli’r Math Cyfrwng Ysgol sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer blynyddoedd academaidd hyda at 2023/24. Nid yw’r data yn union gymharol rhwng y ddau system categoreiddio gwahanol.
- Ansawdd ystadegol
Mae adolygiad wedi'i neud i'r tabl athrawon yn ôl pynciau a ddysgir a mesur yn ystod y broses trawsnewid o'r gwasanaeth StatsCymru hen i'r newydd.
Roedd nifer bach o bynciau wedi’u heithrio o’r tabl cyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer 2021/22, 2022/23 a 2023/24 o ganlyniad problem gyda mapio codau. O ganlyniad mae ychydig o gofnodion newydd wedi’u ychwanegu i’r tabl a gwelwyd cynnydd bach yn y cyfanswm llawn.
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd rhwng 2019 a 2024 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau. Ystyrir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol er mwyn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i adolygu'r wybodaeth a gyflwynir ganddynt, ac ailgyflwyno data lle y caiff gwallau eu nodi cyn cyhoeddi.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Cod nodyn c = niferoedd yn fwy na sero ond yn llai na pump. Mae niferoedd athrawon wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- educationworkforcedata@llyw.cymru