Cyd-lynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ôl categori staff a sector

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod Lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sector
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math Cyfrwng Ysgol
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Categori Iaith Ysgol
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Categori Staff
19 o 19 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ystod Cyflog
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

31ain Mawrth 2026

Mae adolygiad wedi'i neud i'r tabl Cyd-lynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ystod y broses trawsnewid o'r gwasanaeth StatsCymru hen i'r newydd.

Mae newid bach i’r niferoedd yn ôl Categori Iaith Ysgol ar gyfer 2024/25. Roedd hyn o ganlyniad i gywiriad i mapio cyfuniadau codau wedi gofnodi gan ysgolion lle roedd yr ysgol yn disgyn mewn mwy nag un cod i’r categorïau level uwch defnyddir ar gyfer cyhoeddi. Er hynny, nid yw’r cyfanwsm llawn wedi newid.

27ain Chwefror 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC)
Cyfnod amser dan sylw
Medi 2020 i Awst 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY). Mae’r set ddata yma yn dangos y nifer o Cyd-lynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ôl categori staff a sector.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data ysgolion wedi’u cymryd o ddata Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) sy’n cael ei gasglu ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Gan mai casgliad ar lefel unigol yw'r CBGY, mae'n bosibl y bydd achosion lle bydd aelod o'r gweithlu wedi'i gofnodi yn erbyn nifer o rolau yn yr un ysgol neu mewn nifer o ysgolion. O ran cyfrif pen staff awdurdodau lleol, fel rhan o'r broses gysylltu a chyfuno, caiff gwybodaeth y staff cymorth hynny sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) ei chyfuno'n un cofnod ar gyfer pob awdurdod lleol y maent yn ymddangos ynddo, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.

O ran y cyfrif pen ar lefel Cymru, caiff yr un rhesymeg ei chymhwyso lle caiff gwybodaeth staff cymroth sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) mewn awdurdodau lleol gwahanol ei chyfuno'n un cofnod, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr unigolyn hwnnw.

Felly, lle y caiff gwybodaeth ei chyhoeddi gan awdurdod lleol, efallai na fydd cyfanswm yr awdurdodau lleol yn cyfateb i'r ffigur a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd diweddariad i ganllawiau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhagfyr 2021. Pwrpas y trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yw i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru ynghyd â’r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fel cyflwynwyd yn Cymraeg 2050. Mae data ar gyfer 2024/25 ac ymlaen yn defnyddio’r system categoreiddio gan ddisodli’r Math Cyfrwng Ysgol sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer blynyddoedd academaidd hyda at 2023/24. Nid yw’r data yn union gymharol rhwng y ddau system categoreiddio gwahanol.

Ansawdd ystadegol

Mae adolygiad wedi'i neud i'r tabl Cyd-lynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ystod y broses trawsnewid o'r gwasanaeth StatsCymru hen i'r newydd.

Mae newid bach i’r niferoedd yn ôl Categori Iaith Ysgol ar gyfer 2024/25. Roedd hyn o ganlyniad i gywiriad i mapio cyfuniadau codau wedi gofnodi gan ysgolion lle roedd yr ysgol yn disgyn mewn mwy nag un cod i’r categorïau level uwch defnyddir ar gyfer cyhoeddi. Er hynny, nid yw’r cyfanwsm llawn wedi newid.

Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd rhwng 2019 a 2024 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Yn 2019, ni chyflwynodd 4 ysgol o blith y 1,502 o ysgolion ddatganiad Ysgol ar gyfer y CBGY (cyfradd gyflwyno o 99.7%). Ar gyfer yr ysgolion hyn, cafodd cyfanswm nifer y staff ei amcangyfrif gan ddefnyddio ffactor graddio drwy gymharu nifer y staff a gofnodwyd yn y CBGY a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ag ysgolion â nodweddion tebyg yn yr un awdurdod lleol. Mae'r amcangyfrifon yn ôl nodweddion staff penodol (e.e. rhyw, oedran) ar gyfer yr ysgolion hyn wedi’u cofnodi yn ‘anhysbys’.

O ganlyniad i newidiadau yma yn y fethodoleg i gyfrifo cyfrif pennau, nid yw’r ffigurau ar gyfer 2019 yn gymharol i ffigurau blynyddoedd dilynol. Gweler ein datganiad ystadegol ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion’ ac ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ ar gyfer manylion pellach.

Talgrynnu wedi'i wneud

Cod nodyn c = niferoedd yn fwy na sero ond yn llai na pump. Mae niferoedd staff cymorth wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
educationworkforcedata@llyw.cymru