Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, yn ôl awdurdod lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 21ain Ebrill 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
- Darparwr data 2
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Disgyblion Sy'n Derbyn Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol (EOTAS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2015 i Awst 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r set ddata hon yn cynnwys ystadegau am ddisgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Mae wedi’i dadansoddi yn ôl Awdurdod lleol a Blwyddyn academaidd. Mae blwyddyn academaidd yn rhedeg o 1 Medi i 31 Awst. Y mesurau a gynhwysir yw: Disgyblion EOTAS sy'n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol a nid ydynt ar gofrestr Ysgol a Gynhelir Disgyblion EOTAS sy'n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol and mae ganddynt statws coftrstru atodol mewn ysgol a gynhelir Cyfanswm nifer y Disgyblion EOTASsy'n defrbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol Disgyblion EOTASgyda prif statws cofrestru gyfredol neu gyfredol mewn ysgol a gynhelir Yr holl ddisgyblion sy'n derbyn darpariaeth EOTAS
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r ffigurau’n dod o gyfrifiad blynyddol disgyblion Addysgwyd Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno cofnodion lefel disgybl ar gyfer disgyblion y mae’r awdurdod lleol yn trefnu ac yn ariannu eu haddysg y tu allan i leoliad ysgol a gynhelir, gan gynnwys disgyblion sy’n aros am ddarpariaeth a’r rhai nad ydynt yn cael eu dal mewn casgliadau eraill fel PLASC. Mae awdurdodau lleol yn llunio’r ffurflen o’u systemau gwybodaeth reoli ac yn ei chyflwyno drwy’r system drosglwyddo data ddiogel DEWi. Cymhwysir gwiriadau dilysu ac mae awdurdodau lleol yn ymchwilio i wallau ac ymholiadau cyn cyflwyno.
- Ansawdd ystadegol
Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau. Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.
Ni chwblhawyd y casgliad data yn 2019/20 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Am y rheswm hwn, dim ond 14 awdurdod lleol oedd yn gallu cyflwyno data, felly mae'r data ond yn ymwneud â'r awdurdodau hynny.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.ysgolion@llyw.cymru