Dysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau neu ddysgu cymunedol yn ôl darparwr, math o ddarpariaeth a gwybodaeth ddemograffig
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
| Newidyn | Gwelededd | Gwerthoedd a ddewiswyd | Gweithred |
|---|---|---|---|
| Disgrifiad o’r data | Wedi'i ddangos yn y tabl | Nifer y dysgwyr | Ni ellir newid y gwerth |
| Blwyddyn academaidd | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 9 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Math o ddarpariaeth | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 6 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Darparwr | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 45 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Grŵp oedran | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 13 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Rhywedd | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 4 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Mesur demograffig | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 7 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Gwerth demograffig | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 59 gwerth | Newid gwerthoedd |
Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [c] = gwybodaeth gyfrinachol.
| Gwerthoedd data | Disgrifiad o’r data | Blwyddyn academaidd | Math o ddarpariaeth | Darparwr | Grŵp oedran | Rhywedd | Mesur demograffig | Gwerth demograffig |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 161,920 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cyfanswm | Cyfanswm |
| 39,360 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Amddifadedd y gymdogaeth gartref | 1af (20% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig) |
| 34,495 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Amddifadedd y gymdogaeth gartref | 2il |
| 31,645 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Amddifadedd y gymdogaeth gartref | 3ydd |
| 28,510 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Amddifadedd y gymdogaeth gartref | 4ydd |
| 24,770 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Amddifadedd y gymdogaeth gartref | 5ed (10% o gymdogaethau lleiaf difreintiedig) |
| 3,720 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Amddifadedd y gymdogaeth gartref | Anhysbys |
| 18,635 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) | Erioed PYD |
| 49,530 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) | Ar ryw adeg PYD |
| 93,810 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Erioed yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) | Anhysbys |
| 7,430 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig | Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig |
| 6,530 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig | Cymry Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd |
| 3,320 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig | Grwpiau cymysg neu aml-ethnig |
| 132,955 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig | Gwyn |
| 3,800 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig | Grwp ethnig arall |
| 9,385 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig | Gwrthodwyd rhoi gwybodaeth / gwybodaeth yn anhysbys |
| 2,045 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Indiaidd |
| 1,150 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Pacistanaidd |
| 1,460 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Bangladeshaidd |
| 615 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Tseinïaidd |
| 2,180 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Unrhyw gefndir Asiaidd arall |
| 5,710 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Affricanaidd |
| 270 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Caribïaidd |
| 580 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Unrhyw gefndir Du, Du Cymreig, Du Prydeinig neu Garibïaidd arall |
| 570 | Nifer y dysgwyr | 2024-25 | Cyfanswm | Cyfanswm | Pob oedran | Pob dysgwr | Cefndir ethnig manwl | Gwyn a Du Affricanaidd |
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026
Diweddariadau
- 26ain Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC)
- Darparwr data 2
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Ôl-16 Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
- Darparwr data 3
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
- Cyfnod amser dan sylw
- Awst 2016 i Awst 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Dysgwyr sy'n cael addysg bellach mewn colegau, dysgu cymunedol awdurdod lleol, neu brentisiaethau.
Ni chaiff addysg uwch, gradd-brentisiaethau na dosbarthiadau chwech eu cynnwys.
Mae'r set ddata'n cynnwys y newidynnau canlynol:
Blwyddyn academaidd: O 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Math o ddarpariaeth: Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy'n astudio cymwysterau Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft BTECs).Caiff dysgwr ei gyfrif fel dysgwyr mewn addysg bellach ran-amser os nad yw wedi cael dim addysg bellach amser llawn gan y darparwr.Ystyr dysgu cymunedol awdurdod lleol yw gweithgareddau dysgu cymunedol a gynhelir gan awdurdodau lleol, ac mae'n cynnwys gweithgareddau dysgu a gynhelir gan sefydliad addysg bellach dan gontract.
Darparwr: Darparwr arweiniol y gweithgareddau dysgu. Os bydd darparwyr wedi uno, bydd y data hanesyddol yn cynnwys yr holl ddarparwyr blaenorol. Darparwyr nad ydynt yn bodoli fel darparwyr arweiniol yn y flwyddyn ddiweddaraf yw darparwyr hanesyddol.
Grŵp oedran: Oedran y dysgwr ar 31 Awst y flwyddyn academaidd.
Rhywedd: Fe'i dangosir fel y caiff ei gasglu yn y data, ond nid yw hyn yn dilyn yr arferion gorau. Byddwn yn gwerthuso'r ffordd y dylid casglu data rhywedd a/neu ryw yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Mesur demograffig: Mathau o wybodaeth am nodweddion.
Gwerth demograffig: Nodweddion unigol y mesur demograffig.
Amddifadedd cymdogaeth gartref: Cwintel yr ardal yn seiliedig ar god post y dysgwr ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
Yn gymwys ar unrhyw adeg i gael Prydau Ysgol Am Ddim: Mae cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn fesuriad procsi o brofiad yr unigolyn o amddifadedd. Diffinnir dysgwr yn yr adroddiad hwn fel dysgwr a fu “yn gymwys ar unrhyw adeg i gael Prydau Ysgol Am Ddim” os oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod eu haddysg mewn ysgol uwchradd yng Nghymru. Os nad oeddent yn gymwys yn ystod unrhyw flwyddyn mewn ysgol uwchradd yng Nghymru fe’u disgrifir fel ‘erioed yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim’. Caiff dysgwyr nad oedd modd eu paru â chofnod ysgol uwchradd yng Nghymru eu categoreiddio fel anhysbys.
Cefndir ethnig: Caiff ei gategoreiddio i bum grŵp cyffredinol, a 18 o is-grwpiau.
Anabledd neu anhawster dysgu: Mae mathau o anabledd neu anhawster dysgu (ADD) yn ymwneud dim ond â dysgwyr sydd ag AAD sy'n effeithio ar eu gallu i ddysgu a/neu ddefnyddio cyfleusterau o fath a gyflenwir fel arfer gan y darparwr dysgu, ac maent wedi'u seilio ar asesiad y dysgwr ei hun o'i iechyd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yw’r system casglu data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i alluogi darparwyr AB, dysgu seiliedig-ar-waith a dysgu cymunedol awdurdodau lleol i gyflwyno data unigoledig ar-lein ar ddysgwyr, a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau dysgu.
Mae systemau Llywodraeth Cymru’n llwytho’r data ar gronfa ddata i hwyluso gwaith dadansoddi. Wedyn trosglwyddir y gronfa ddata i Medr i’w phrosesu a’i dadansoddi. Ceir rhagor o wybodaeth am LLWR gan gynnwys llawlyfrau cymorth i ddefnyddwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.
Caiff y data a ddefnyddir yn yr ystadegau hyn ei echdynnu o LLWR ar y dydd Iau yn y drydedd wythnos lawn ym mis Rhagfyr.
Prif ddiben LLWR yw darparu data ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol i hwyluso’r broses o gynllunio a chyllido darpariaeth ddysgu a gyflwynir. Mae data LLWR hefyd yn sail ar gyfer monitro perfformiad a deilliannau, goleuo strategaeth a datblygu a darparu ystadegau ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol yng Nghymru.
- Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau. Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda [c].
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Medr
- E-bost cysylltu
- ystadegau@medr.cymru