Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, Gorffennaf 2025 ymlaen

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Categori galwad
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd Iechyd Lleol
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:21 Mai 2026

Diweddariadau

23ain Ebrill 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu

19eg Mawrth 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu

19eg Chwefror 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu

22ain Ionawr 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu

18fed Rhagfyr 2025

Mis newydd wedi'i ychwanegu

21ain Tachwedd 2025
23ain Hydref 2025
26ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Gorffennaf 2025 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Hyd at fis Gorffennaf 2025, roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio yn rhai coch (galwadau lle mae bywyd yn y fantol), ambr (galwadau difrifol ond lle nad yw bywyd yn y fantol) neu wyrdd (galwadau nad ydynt yn rhai brys). Ar 1 Gorffennaf, cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, a chyflwynwyd dau gategori ymateb newydd i ddisodli’r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw Porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol, a Coch: Brys, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle y mae person mewn perygl sylweddol o gael ataliad y galon neu ataliol anadlol os nad yw’n cael ymateb cyflym.

Ar 2 Rhagfyr 2025, disodlodd tri chategori newydd y categorïau oren a gwyrdd blaenorol. Y categorïau newydd hyn yw Oren: Nawr, ar gyfer cyflyrau difrifol, Melyn: Yn fuan, ar gyfer pobl y mae angen eu hasesu yn gyntaf, a Gwyrdd: Wedi'i gynllunio, ar gyfer galwadau llai brys.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys data ar gyfer nifer y galwadau ambiwlans porffor, coch, oren, melyn a gwyrdd, cyfraddau Cylchrediad Digymell wedi Dychwelyd, amseroedd ymateb ambiwlansys, yr amser a gymerir i adnabod ataliad ar y galon, yr amser a gymerir i ddechrau rhoi cyfarwyddiadau CPR a’r amser a gymerir i sicrhau diffibriliwr.

Cyfrifo neu gasglu data

Ffurflen fisol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol. Caiff data eu cyflwyno ar daenlen Excel a’u trosglwyddo i gronfa ddata Access. Yr Ymddiriedolaeth sy’n gwirio gan gynnwys tueddiadau misol ac yn delio ag unrhyw ymholiadau.

Ansawdd ystadegol

Caiff cyfraddau ROSC eu cyfrifo fel cyfran y cleifion sydd â churiad calon wedi’i adfer ar ôl cyfnod o ataliad ar y galon. Yn sgil y nifer cymharol isel o gleifion yn y categori hwn, mae’r ffigurau ar lefel y bwrdd iechyd yn debygol o fod yn gyfnewidiol o un mis i’r llall. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu byrddau iechyd a thros amser. Efallai y bydd peth amser cyn y gellir gweld tueddiadau gwirioneddol mewn perfformiad a chyn y gellir sefydlu unrhyw wahaniaethau rhwng byrddau iechyd. Tros amser, byddwn yn ystyried y ffordd orau o gyflwyno’r ffigurau ar lefel y bwrdd iechyd a’u rhannu.

Cafodd y model newydd ei roi ar waith tua 10am ar 1 Gorffennaf 2025. O ganlyniad, nid yw nifer bach o ddigwyddiadau, a ddigwyddodd rhwng 12am a 10am, wedi’u cynnwys yn y data hyn.

Talgrynnu wedi'i wneud

Canranau wedi eu cylchdroi i un lle degol

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru