Canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 yn ôl pwnc di-graidd a rhyw
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 13eg Mawrth 2026
Cywiriad i gyfieithiad 'Gwrywaidd'.
- 15fed Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Casgliad data asesiadau athrawon cenedlaethol
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2000 i Awst 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Canlyniadau asesiad athrawon Cyfnod Allweddol 3 yn ymwneud â phobl ifanc 14 oed. O ganlyniad i'r cwricwlwm newydd i Gymru, nid yw'r data hwn bellach yn cael ei gasglu.
- Cyfrifo neu gasglu data
Casglwyd y data yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol mewn ffurflen o'r enw Casglu Data Cenedlaethol (NDC). Roedd yr NDC yn gasgliad electronig o ddata lefel disgyblion. Mae ysgolion yn cofnodi data am ddisgyblion drwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Cafodd y data hwn ei goladu mewn ffurflen NDC electronig a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWI, system drosglwyddo data ar-lein diogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Adeiladwyd gwahanol gamau o ddilysu awtomataidd a gwirio synhwyrol yn y broses i sicrhau ansawdd uchel o ddata i lywio llunio polisïau a chyllid.
- Ansawdd ystadegol
Cafodd y ffurflenni eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan awdurdodau lleol. Ni chasglwyd y data yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig y coronafirws (COVID-19).
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.ysgolion@llyw.cymru