Oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth yn ôl a oes ganddynt ofalwr hysbys, grŵp oedran, rhywedd ac ethnigrwydd.
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mai 2026
Diweddariadau
- 26ain Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifiad oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2023 i Mawrth 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth sydd â chynlluniau gofal a chymorth ar 31 Mawrth ac a oes gan yr oedolyn o leiaf un gofalwr (di-dâl) hysbys i’r awdurdod lleol y mae'n derbyn cymorth ganddo. Mae'r Cyfrifiad oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth (ARCS) yn seiliedig ar y diffiniad o oedolion cymwys sy’n cael gofal a chymorth, h.y. oedolion (18 oed neu hŷn) sydd â chynllun gofal a chymorth. Datblygwyd yr ARCS gyda'r awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill yn 2022. Mae data yma wedi'i rannu yn ôl nodweddion demograffig amrywiol ac yn rhoi cipolwg ar broffil oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth ar lefel awdurdod lleol ac ar lefel genedlaethol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r ARCS yn gasgliad data ar lefel unigolyn a gyflwynir yn electronig gan yr awdurdodau lleol yn flynyddol i Lywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu gwerth blwyddyn ariannol o ddata. Rhennir y casgliad yn ddwy adran: Mae Adran 1, Manylion Craidd, wedi'i chwblhau ar gyfer pob oedolyn sydd wedi cael cynllun gofal a chymorth ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol; nid yw Adran 2, Manylion Gofal a Chymorth, yn cael ei chwblhau ond ar gyfer y rhai sydd â chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth. Gellir dod o hyd i ganllawiau manwl ar dudalen casglu data gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae'r data wedi'i ddilysu drwy ddefnyddio prosesau sicrhau ansawdd mewnol a thrwy ymgysylltu â'r darparwyr data (awdurdodau lleol) i fynd i'r afael â materion ansawdd data. Mae'r set ddata yn cael ei hagregu i ddarparu cyfrifiadau ar gyfer gwahanol gyfuniadau o nodweddion demograffig, gyda chyfansymiau ar gyfer pob categori demograffig hefyd wedi'u cynnwys.
- Ansawdd ystadegol
Blwyddyn ariannol 2023-24 oedd y flwyddyn gyntaf y casglwyd data ar gyfer y cyfrifiad Oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth. Nid yw nifer yr oedolion sydd â chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2024 yn cyfateb i AD/012a nifer yr oedolion sydd â chynllun gofal a chymorth o set ddata'r Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd bod rhai awdurdodau lleol yn cynnwys gwahanol boblogaethau. Gan fod hyn yn ymwneud â gofalwyr y mae'r awdurdod lleol yn gwybod amdanynt, mae'n dangyfrif pob oedolyn sydd â gofalwr.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r mesurau canlynol wedi'u cymryd i leihau'r risg o ddatgelu data personol yn ddiangen. Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Lle mae llai na phum oedolyn mewn unrhyw grŵp, mae'r nifer gwirioneddol wedi'i atal a'i ddisodli gan y symbol “c”.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru