Cofrestriadau a chanlyniadau Lefel A (disgyblion 17 oed) yn ôl rhyw

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Pwnc
56 o 56 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:8 Hydref 2026

Diweddariadau

15fed Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 1
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
Darparwr data 2
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 2
Cronfa Ddata Arholiadau Cymru
Cyfnod amser dan sylw
Medi 2008 i Awst 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn cwmpasu data a gyhoeddwyd yng nghyhoeddiad blynyddol "Canlyniadau Arholiadau" Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth am nifer y cofrestriadau Lefel A a chanran y cofrestriadau hynny sy'n cyflawni pob gradd Lefel A. Mae'r set ddata hon yn cwmpasu disgyblion 17 oed a gofnodwyd yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD), gan gymharu canlyniadau rhwng rhyw a phwnc.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru gan sefydliadau dyfarnu i ffurfio Cronfa Ddata Arholiadau Cymru (WED). Mae'r data hwn yn cael ei goladu a'i baru â disgyblion yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD) a chyfrifiad Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Cyhoeddir y data hwn dros dro (a nodir gan y nodyn p) ym mis Hydref, yna rhoddir cyfle i Ysgolion ac Awdurdodau Lleol ddilysu eu data perthnasol ac yna cyhoeddir y data terfynol ym mis Rhagfyr. Rhwng y data dros dro a'r data terfynol fel arfer mae llai nag 1 pwynt canran o newid ar lefel Cymru, ar lefel Awdurdod Lleol ac Ysgol gall y newid fod yn fwy.

Ansawdd ystadegol

Cyfrifir cymhwyster disgybl yn y flwyddyn y mae’r disgybl yn 17 oed e.e. os cymerodd disgybl 16 oed gymhwyster yn 2023/24, dim ond pan oedd y disgybl yn 17 oed yn 2024/25 y byddai’n ymddangos yn y set ddata hon.

Lle mae disgybl yn cofrestru ar gyfer dau gymhwyster tebyg iawn e.e. mae disgybl yn cymryd yr un cymhwyster gyda dau sefydliad dyfarnu gwahanol neu mae’r disgybl yn ailsefyll cymhwyster, cyn 2018/19 cynhwysir y cais gorau, 2018/19 ac ymlaen dim ond cais cyntaf y disgybl sy’n cael ei gyfrif.

Dim ond cymwysterau Lefel A sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru gan ddisgyblion rhwng 16 a 18 oed sy’n cael eu cynnwys. Mae rhagor o fanylion am ba gymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru ar gael yn y gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) https://www.qiw.wales/?lang=cy.

Rhestrir graddau U ac X fel rhai heb eu graddio. Mae gradd U yn golygu bod y disgybl wedi methu â chyflawni’r isafswm sy’n ofynnol i gael gradd E. Mae gradd X yn golygu nad oedd y disgybl wedi mynychu’r arholiad nac wedi cyflwyno’r gwaith cwrs gofynnol i gwblhau’r cymhwyster, ac felly ni ellid ei raddio.

Dyfarnwyd graddau i ddisgyblion yn ystod cyfnodau haf 2019/20 a 2020/21 yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan. Penderfynwyd graddau gan ysgolion, yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau di-arholiad, arholiadau ffug, a gwaith dosbarth).

Blynyddoedd pontio oedd cyfnodau arholiadau 2021/22 a 2022/23, lle dychwelwyd cymwysterau perthnasol a safwyd gan ddisgyblion Cymru i drefniadau arholiadau ysgrifenedig. Nid oedd hyn yn ddychweliad llwyr i drefniadau arholiadau cyn y pandemig. I wneud iawn am unrhyw aflonyddwch i amserlen yr ysgol, rhoddwyd dewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur i ddisgyblion a safodd arholiadau yn 2021/22, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau ar lefel genedlaethol tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2018/19 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2020/21. Wrth i ni drawsnewid yn ôl i drefniadau asesu cyn-bandemig, roedd rhywfaint o gefnogaeth yn parhau i fod ar waith i ddysgwyr a safodd arholiadau yn 2022/23. Roedd y gefnogaeth hon ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw a dull cefnogol o raddio. Yn 2022/23, gosododd Cymwysterau Cymru y canlyniadau ar lefel genedlaethol tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach o ganlyniadau 2022/23 (gweler Cymwysterau Cymru am fwy o fanylion https://cymwysterau.cymru/newyddion-a-barn/dychwelyd-i-safonau-tgau-ug-a-safon-uwch-cyn-y-pandemig/).

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae talgrynnu i'r lle degol cyntaf wedi'i gymhwyso i'r canrannau yn y set ddata hon.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.ysgolion@llyw.cymru