Prentisiaethau yn ôl sector, rhanbarth cartref ac grŵp oedran

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o raglen
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sector
227 o 227 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhywedd
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp oedran
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhanbarth cartref
29 o 29 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026

Diweddariadau

26ain Chwefror 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
Cyfnod amser dan sylw
Awst 2012 i Gorffennaf 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn cynnwys nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddilynir yng Nghymru mewn sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant preifat. Nid yw'n cynnwys prentisiaethau a gynhelir gan sefydliadau addysg uwch. Nid yw'n cynnwys gradd-brentisiaethau.

Gall prentisiaethau bara sawl blwyddyn. Caiff yr holl brentisiaethau sy'n weithredol yn ystod blwyddyn academaidd eu cynnwys.

Mae'r set ddata'n cynnwys y newidynnau canlynol:

Blwyddyn academaidd – O 1 Awst tan 31 Gorffennaf.

Math o raglen – Prentisiaethau ar dair lefel: prentisiaethau sylfaen lefel 2, prentisiaethau lefel 3, prentisiaethau uwch lefel 4 i 5.

Sector – Y math o waith neu hyfforddiant y mae'r dysgwr yn ymgymryd ag ef. Gellir ei rannu'n fframweithiau sector unigol.

Grŵp oedran – Oedran y dysgwr ar 31 Awst y flwyddyn academaidd.

Rhanbarth cartref – Awdurdod lleol domisil y dysgwyr, a gyfrifwyd gan ddefnyddio cod post cartref y dysgwr.

Rhywedd – Fe'i dangosir fel y caiff ei gasglu yn y data, ond nid yw hyn yn dilyn yr arferion gorau. Byddwn yn gwerthuso'r ffordd y dylid casglu data rhywedd a/neu ryw yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yw’r system casglu data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i alluogi darparwyr AB, dysgu seiliedig-ar-waith a dysgu cymunedol awdurdodau lleol i gyflwyno data unigoledig ar-lein ar ddysgwyr, a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau dysgu.

Mae systemau Llywodraeth Cymru’n llwytho’r data ar gronfa ddata i hwyluso gwaith dadansoddi. Wedyn trosglwyddir y gronfa ddata i Medr i’w phrosesu a’i dadansoddi. Ceir rhagor o wybodaeth am LLWR gan gynnwys llawlyfrau cymorth i ddefnyddwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.

Caiff y data a ddefnyddir yn yr ystadegau hyn ei echdynnu o LLWR ar y dydd Iau yn y drydedd wythnos lawn ym mis Rhagfyr.

Prif ddiben LLWR yw darparu data ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol i hwyluso’r broses o gynllunio a chyllido darpariaeth ddysgu a gyflwynir. Mae data LLWR hefyd yn sail ar gyfer monitro perfformiad a deilliannau, goleuo strategaeth a datblygu a darparu ystadegau ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ansawdd ystadegol

Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau. Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.

Mae'r data hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr holl brentisiaethau, gan gynnwys prentisiaethau a derfynwyd yn ystod eu 8 wythnos gyntaf.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda [c].

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Medr
E-bost cysylltu
ystadegau@medr.cymru