Mesur Iechyd Meddwl Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd Iechyd y Darparwr
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
153 o 153 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oed
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:27 Mai 2026

Diweddariadau

25ain Chwefror 2026

Chwarter newydd wedi’i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo hynny’n berthnasol.

26ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Gwybodaeth reoli
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Casglu data Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2013 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae Rhan 1 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ceisio sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd meddwl ar gael o fewn gofal sylfaenol. Mae Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) yn cynnig asesiad o iechyd meddwl unigolyn a, lle bo'n briodol, cyngor, gwybodaeth a/neu driniaeth. Gall asesiad LPMHSS fod wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ac mae'n gwerthuso natur anghenion iechyd meddwl claf. Gellir cynnig ymyrraeth therapiwtig, a ddarperir gan LPMHSS, naill ai yn unigol neu mewn grŵp. Gall ymyriadau o'r fath gynnwys cwnsela, therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), rheoli straen, therapi sy'n canolbwyntio ar atebion a bibliotherapi.

Mae'r tabl hwn yn darparu data misol ar atgyfeiriadau LPMHSS a ddaeth i law a'r amseroedd aros am asesiad LPMHSS a hyd at ddechrau ymyrraeth therapiwtig ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru. Mae'r tabl yn dangos:

  • cyfanswm yr atgyfeiriadau a ddaeth i law ar gyfer asesiad LPMHSS
  • yr amser yr oedd cleifion wedi aros o'u hatgyfeiriad i gael asesiad LPMHSS
  • canran yr asesiadau LPMHSS a ddechreuwyd o fewn 28 diwrnod i'r atgyfeiriad
  • yr amser yr oedd cleifion wedi aros o asesiad LPMHSS i ddechrau ymyrraeth therapiwtig
  • canran yr ymyriadau therapiwtig a ddechreuwyd o fewn 28 diwrnod i asesiad LPMHSS

Dangosir data o fis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2020 fel cyfanswm ar gyfer pob oedran. O fis Ebrill 2020, yn ogystal â'r cyfanswm, dangosir y data hefyd ar gyfer cleifion o dan 18 oed ac ar gyfer y rhai 18 oed a hŷn.

Ym mis Medi 2021, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe symud i wasanaeth Un Pwynt Mynediad (SPOA) ar gyfer pob atgyfeiriad iechyd meddwl. O ganlyniad, mae angen asesiad LPMHSS Rhan 1 ar yr holl atgyfeiriadau a dderbynnir, sy'n esbonio'r cynnydd mewn atgyfeiriadau.

Ar gyfer y cyfnod o fis Awst 2022 i fis Mawrth 2023, ni lwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyflwyno data gan fod system TG iechyd meddwl newydd yn cael ei rhoi ar waith. Felly, cafodd y data ar gyfer mis Gorffennaf 2022 ei ddwyn ymlaen bob mis i gwmpasu'r cyfnod hwn. Ym mis Ebrill 2023, ailddechreuodd y bwrdd iechyd gyflwyno data a, thros y 12 mis nesaf, cynhaliodd wiriadau dilysu helaeth i sicrhau bod data cywir yn cael ei adrodd o fis Ebrill 2024 ymlaen.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn cael ffurflenni adrodd Iechyd Meddwl bob mis gan bob bwrdd iechyd. Mae'r safonau sy'n ymwneud â'r ffurflenni wedi'u hadolygu a'u pasio gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) a Grŵp Datblygu Gwybodaeth Cymru (WIDG) (a elwid gynt yr Is-grŵp Hysbysiad Newid Safonau Data).

Ansawdd ystadegol

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn lanlwytho'r data a ddaw i law bob chwarter. Mae'r system prosesu data a ddefnyddir yn sicrhau nad yw data ar goll o'r ffurflenni. Yna cynhelir gwiriadau dilysu a gwirio pellach bob chwarter, gan gynnwys, er enghraifft, gwirio tueddiadau yn y data ac unrhyw ddirywiad sylweddol mewn perfformiad yn erbyn y targedau a osodwyd. Mae unrhyw annormaleddau yn y data yn cael eu nodi a'u codi gyda'r bwrdd iechyd perthnasol, gan alluogi'r bwrdd iechyd i wirio, cywiro neu wneud sylwadau ar eu data ac i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol lle bo hynny'n berthnasol.

Os canfyddir bod gwerth data a gyhoeddwyd yn flaenorol yn anghywir a'i fod wedyn yn cael ei gywiro neu ei fod wedi'i newid i wella cywirdeb, ychwanegir r at y gwerth data perthnasol yn y cyhoeddiad nesaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym [Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: adroddiad ansawdd] (https://www.llyw.cymru/mesur-iechyd-meddwl-cymru-2010-adroddiad-ansawdd)

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
hss.performance@llyw.cymru