Amcangyfrif o unigolion 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl gweithgarwch economaidd a grwpiau oedran
Disgwylir y diweddariad nesaf:Tachwedd 2026
Diweddariadau
- 26ain Tachwedd 2025
- 24ain Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
- Darparwr data 2
- Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
- Ffynhonnell y data 2
- Cofnod myfyrwyr
- Darparwr data 3
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
- Darparwr data 4
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 4
- Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
- Darparwr data 5
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 5
- Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data hwn yn darparu gwybodaeth am gyfranogiad pobl 16 i 24 oed ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl grwpiau oedran dethol a gweithgaredd economaidd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r ystadegau hyn yn deillio o nifer o ffynonellau data gweinyddol a data sy’n seiliedig ar arolygon, mae rhagor o wybodaeth am bob un o'r ffynonellau ac mae'r fethodoleg ar gyfer cynhyrchu'r amcangyfrifon ar gael yn Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur: nodyn methodoleg.
Mae pob datganiad blynyddol yn darparu'r data terfynol ar gyfer blynyddoedd blaenorol ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf. Mae'r amcangyfrifon dros dro yn seiliedig ar y data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer pob agwedd ar gyfranogiad. Mae'r rhain yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu, gan ddibynnu ar y gwahanol ffynonellau data. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn ystyried data terfynol nad oeddent ar gael ar yr adeg pan gyhoeddwyd yr amcangyfrifon yn wreiddiol.
- Ansawdd ystadegol
Diweddarwyd y fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu data'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ym mlwyddyn academaidd 2022/23, gan effeithio ar amcangyfrifon NEET o 2022 ymlaen. Bach iawn yw effaith y newid hwn yn y fethodoleg ar yr amcangyfrifon, gyda'r gwahaniaeth yn y boblogaeth myfyrwyr addysg uwch rhwng yr hen fethodoleg a'r fethodoleg newydd yn llai nag 1 pwynt canran. O ystyried hyn, nid oes angen torri’r gyfres amser, a gellir gwneud cymariaethau cyn ac ar ôl 2022 o hyd.
Gwnaed newidiadau i'r fethodoleg a ddefnyddir i ddeillio'r amcangyfrifon cyfranogiad a gyflwynwyd ar gyfer diwedd blwyddyn 2004. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r amcangyfrifon hyn ag amcangyfrifon o ddiwedd blwyddyn 2004 ymlaen.
Mae'r cyfrannau statws economaidd yn cael eu hamcangyfrif o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Felly, bydd yr amcangyfrifon hyn yn amodol ar amrywiad oherwydd gwall samplu a gwall arall, a dylid eu trin yn ofalus.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae data wedi'i dalgrynnu i'r cant agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru