Cyfrif pen staff cymorth mewn ysgolion wedi’u cynnal yn ôl ethnigrwydd a sector

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod Lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sector
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Categori Staff
17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math Cyfrwng Ysgol
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Categori Iaith Ysgol
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ethnigrwydd
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

27ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC)
Cyfnod amser dan sylw
Medi 2019 i Awst 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY). Mae’r set ddata yma yn dangos y nifer o staff cymorth mewn ysgolion wedi’u cynnal trwy awdurdodau lleol yng Nghymru yn ôl ethnigrwydd a sector.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data ysgolion wedi’u cymryd o ddata Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) sy’n cael ei gasglu ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Gan mai casgliad ar lefel unigol yw'r CBGY, mae'n bosibl y bydd achosion lle bydd aelod o'r gweithlu wedi'i gofnodi yn erbyn nifer o rolau yn yr un ysgol neu mewn nifer o ysgolion. O ran cyfrif pen staff awdurdodau lleol, fel rhan o'r broses gysylltu a chyfuno, caiff gwybodaeth y staff cymorth hynny sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) ei chyfuno'n un cofnod ar gyfer pob awdurdod lleol y maent yn ymddangos ynddo, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.

O ran y cyfrif pen ar lefel Cymru, caiff yr un rhesymeg ei chymhwyso lle caiff gwybodaeth staff cymroth sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) mewn awdurdodau lleol gwahanol ei chyfuno'n un cofnod, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr unigolyn hwnnw.

Felly, lle y caiff gwybodaeth ei chyhoeddi gan awdurdod lleol, efallai na fydd cyfanswm yr awdurdodau lleol yn cyfateb i'r ffigur a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd diweddariad i ganllawiau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhagfyr 2021. Pwrpas y trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yw i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru ynghyd â’r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fel cyflwynwyd yn Cymraeg 2050. Mae data ar gyfer 2024/25 ac ymlaen yn defnyddio’r system categoreiddio gan ddisodli’r Math Cyfrwng Ysgol sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer blynyddoedd academaidd hyda at 2023/24. Nid yw’r data yn union gymharol rhwng y ddau system categoreiddio gwahanol.

Ansawdd ystadegol

Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd rhwng 2019 a 2024 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Yn 2019, ni chyflwynodd 4 ysgol o blith y 1,502 o ysgolion ddatganiad Ysgol ar gyfer y CBGY (cyfradd gyflwyno o 99.7%). Ar gyfer yr ysgolion hyn, cafodd cyfanswm nifer y staff ei amcangyfrif gan ddefnyddio ffactor graddio drwy gymharu nifer y staff a gofnodwyd yn y CBGY a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ag ysgolion â nodweddion tebyg yn yr un awdurdod lleol. Mae'r amcangyfrifon yn ôl nodweddion staff penodol (e.e. rhyw, oedran) ar gyfer yr ysgolion hyn wedi’u cofnodi yn ‘anhysbys’.

O ganlyniad i newidiadau yma yn y fethodoleg i gyfrifo cyfrif pennau, nid yw’r ffigurau ar gyfer 2019 yn gymharol i ffigurau blynyddoedd dilynol. Gweler ein datganiad ystadegol ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion’ ac ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ ar gyfer manylion pellach.

Talgrynnu wedi'i wneud

Cod nodyn c = niferoedd yn fwy na sero ond yn llai na pump. Mae niferoedd staff cymorth wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
educationworkforcedata@llyw.cymru