Trosglwyddiadau ambiwlans, o fis Ebrill 2019 ymlaen
Disgwylir y diweddariad nesaf:22 Hydref 2026
Diweddariadau
- 17eg Medi 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2019 i Awst 2026
- ID y set ddata
- 8d061d5f-1b02-4c85-9ca6-a00db930bf12
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Gwybodaeth am oedi wrth drosglwyddo gofal cleifion o griwiau ambiwlans i staff ysbytai.
Darperir data ar gyfer nifer a chanran y trosglwyddiadau ambiwlans a gwblhawyd o fewn 15 munud, dros 15 munud, o fewn 45 munud a thros 45 munud. Mae ffigurau ar gael o fis Ebrill 2019 ymlaen ar gyfer Cymru gyfan, byrddau iechyd lleol a safleoedd ysbytai.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data'n cael eu tynnu o system ddosbarthu gyfrifiadurol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).
Caiff amseroedd cyrraedd yr ysbyty eu cofnodi drwy un o'r dulliau canlynol:
- Geoffensio pan fo cerbyd o fewn nifer penodol o fetrau i ysbyty.
- Pwyso botwm Terfynell Data Symudol (MDT) gan y criw.
- Diweddariad â llaw gan y ganolfan reoli yn dilyn hysbysiad gan y criw (er enghraifft, oherwydd colli signal neu broblemau technegol).
Caiff amseroedd trosglwyddo eu cofnodi drwy:
- Bwyso'r botwm Sgrin Cyrraedd Ysbyty (HAS).
- Pwyso botwm Terfynell Data Symudol (MDT) gan y criw.
- Diweddariad â llaw gan y ganolfan reoli yn dilyn hysbysiad gan y criw (er enghraifft, oherwydd colli signal neu broblemau technegol).
Diffinnir amser trosglwyddo fel yr egwyl rhwng hysbysu bod ambiwlans wedi cyrraedd ysbyty a throsglwyddo gofal y claf. Gall gofal y claf gael ei drosglwyddo i griw ambiwlans arall ac nid o reidrwydd i staff yr ysbyty. Pan fo stampiau amser ar goll, cymhwysir y dirprwyon canlynol:
- Os yw'r amser hysbysu cyrraedd ar goll, defnyddir amser cyrraedd yr ysbyty ynghyd â phum munud.
- Os yw'r amser trosglwyddo ar goll, defnyddir amser clirio'r cerbyd llai pum munud. Cyfrifir mesurau trosglwyddo ar lefel cerbyd, nid ar lefel digwyddiad.
Achosion sydd wedi'u cynnwys:
- Digwyddiadau AS1 (999)
- Cerbydau sydd wedi'u marcio fel rhai sy'n gallu cludo cleifion o fewn y system ddosbarthu gyfrifiadurol (CAD).
- Cerbydau sydd ag amser cyrraedd yr ysbyty.
- Cerbydau sydd ag amser a dyddiad clirio.
- Pob ysbyty yng Nghymru.
Achosion sydd wedi'u heithrio:
- Cludo cleifion i ysbytai y tu allan i Gymru.
- Digwyddiadau â'r codau stopio canlynol:
- Galwadau a wnaed drwy gamgymeriad.
- Galwadau dyblyg.
- Galwadau gwybodaeth.
- Galwadau i ganolfannau rheoli ambiwlansys eraill.
- Galwadau prawf.
- Digwyddiadau lle mae natur y digwyddiad wedi'i chofnodi fel Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol Oedolion (ACCTS) neu Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS).
- Trosglwyddiadau a gwblhawyd gan dacsis a gomisiynwyd gan WAST neu gan wasanaethau Ambiwlans Awyr.
- Cerbydau lle mae stampiau amser ar goll ar gyfer "Dyrannu", "Symud", "Cyrraedd y lleoliad", "Cyrraedd yr ysbyty" neu "Clirio'r Cerbyd".
Presenoldeb mwy nag un cerbyd
Gall mwy nag un cerbyd gwblhau trosglwyddiad ar gyfer un digwyddiad ambiwlans. Gall hyn ddigwydd yn ystod digwyddiadau sy'n cynnwys nifer o anafusion, lle mae angen cymorth clinigol ychwanegol, neu pan drosglwyddir gofal cleifion rhwng criwiau er mwyn hwyluso egwyliau neu newidiadau shifft. Cyfrifir pob cerbyd fel digwyddiad trosglwyddo ar wahân a rhoddir ei amser trosglwyddo ei hun iddo.
Cyflwyno a dilysu data
Mae WAST yn cyflwyno ffurflen fisol ar lefel ysbytai ar ffurf Excel. Caiff y data eu mewnforio i gronfa ddata SQL ac maent yn destun gwiriadau dilysu, gan gynnwys dadansoddi tueddiadau a gwiriadau cysondeb. Codir unrhyw anghysonderau a nodir gydag WAST cyn cyhoeddi.
- Ansawdd ystadegol
Mae proses adrodd am eithriadau yn wythnosol ac yn fisol ar waith er mwyn galluogi'r ganolfan reoli i adolygu a diweddaru cofnodion pan nodir anghysonderau. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau sydd ag unrhyw un o'r problemau canlynol:
- Mae baner trosglwyddo i ysbyty yn bresennol, ond ni chofnodwyd stamp amser cyrraedd.
- Mae enw'r ysbyty ar goll.
- Trosglwyddiadau hir (a adolygir i wirio cywirdeb).
- Cofnodwyd amseroedd ar gyfer cyrraedd yr ysbyty ac ar gyfer clirio'r cerbyd ar ôl trosglwyddo, ond mae amseroedd trosglwyddo ar goll.
- Mae amser clirio'r cerbyd yn digwydd cyn yr amser cyrraedd yr ysbyty a gofnodwyd.
Rhaid llenwi stampiau amser digwyddiadau yn y drefn gronolegol gywir. Os nad ydynt wedi'u llenwi felly, caiff y digwyddiad ei hepgor o'r mesurau trosglwyddo.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Caiff canrannau eu talgrynnu i 1 lle degol
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru