Ymrestriadau myfyrwyr a chymwysedigion mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ôl pwnc

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Darparwr
19 o 19 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Pwnc
26 o 26 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dull astudio
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Lefel astudio
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Marciwr newydd-ddyfodiad
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027

Diweddariadau

29ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Ffynhonnell y data
Cofnod myfyrwyr

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data'n dangos nifer yr ymrestriadau a nifer y cymwysedigion mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru.

Gellir dadansoddi'r data yn ôl:

  • Blwyddyn academaidd - 1 Awst i 31 Gorffennaf, e.e. 2024/25 yw 1 Awst 2024 i 31 Gorffennaf 2025.

  • Marciwr newydd-ddyfodiad - p'un a yw myfyrwyr ar flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau ai peidio.

  • Lefel astudio

  • Dull astudio - amser llawn neu ran-amser

  • Darparwr

  • Rhyw - rhyw'r myfyriwr yn hytrach na'r rhyw y mae'n uniaethu ag ef. Mae myfyrwyr lle dychwelwyd hyn fel 'Arall', 'Ddim ar gael' neu 'Gwybodaeth wedi'i gwrthod' wedi'u cynnwys yn y ffigyrau ar gyfer pob cofrestriad.

  • Pwnc - Y pwnc/pynciau a astudir gan fyfyriwr, wedi'u grwpio yn ôl Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin (HCC) HESA).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data gan ddarparwyr addysg uwch am fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliad.

Y boblogaeth ymrestru

Yr ymrestriadau sydd wedi'u cynnwys yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys ym mhoblogaeth gofrestru safonol HESA yn narparwyr AU Cymru. Gall myfyriwr gael mwy nag un ymrestriad mewn blwyddyn academaidd, os felly yna cyfrifir pob ymrestriad ar wahân.

I gal eich cynnwys ym mhoblogaeth safonol HESA, mae angen i'r sawl sy'n ymrestru fod yn astudio'n weithredol o leiaf bythefnos ar ôl ei ddyddiad dechrau ymgysylltu neu ben-blwyddi dilynol y dyddiad hwnnw. Mae myfyrwyr sy'n ysgrifennu (ac nad oes ganddynt unrhyw astudiaeth weithredol) ar ôl y dyddiad pen-blwydd hwn wedi'u heithrio o'r boblogaeth, yn ogystal â myfyrwyr y disgwylir iddynt astudio am bythefnos neu lai ac nad ydynt yn cwblhau eu hastudiaethau nac yn ennill cymhwyster. Mae myfyrwyr sy'n cael seibiant, myfyrwyr sy'n dod ar ymweliad ac ar gynllun cyfnewid o wledydd tramor, a myfyrwyr sy'n astudio eu holl raglen astudio y tu allan i'r DU hefyd wedi'u heithrio.

Poblogaeth y cymwysedigion

Y boblogaeth a ddefnyddir ar gyfer y data cymwysedigion yw'r boblogaeth a gasglodd HESA ar gyfer Cymwysterau. Mae'r boblogaeth hon yn cynnwys ymrestriadau gan fyfyrwyr sy'n gysylltiedig â dyfarnu cymhwyster addysg uwch yn ystod y flwyddyn academaidd berthnasol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a ddyfarnwyd i’r rhai a oedd wedi cymryd saib o'u hastudiaethau, ar ôl i astudiaethau gweithredol ddod i ben, a rhai a oedd yn barod i ysgrifennu am eu gwaith ymchwil.

Pynciau

Gall myfyrwyr astudio cyfuniadau o bynciau. Mae Cofnod Myfyrwyr HESA yn caniatáu cysylltu hyd at bum pwnc â chwrs, fe'u dychwelir ynghyd â'r gyfran o gwrs y myfyriwr sy'n gysylltiedig â phob pwnc. Mae'r pynciau a astudiwyd gan fyfyrwyr wedi'u grwpio drwy Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin HESA.

Pan fo'r ymrestriad ar gwrs sy'n cynnwys un neu fwy o bynciau, caiff yr ymrestriad ei rannu rhwng grwpiau. Er enghraifft, os yw myfyriwr yn astudio cwrs Mathemateg a Ffrangeg ar y cyd, bydd 0.5 yr ymrestriad yn ymddangos yn erbyn y gwyddorau Mathemategol a 0.5 yn erbyn Astudiaethau iaith ac ardal.

Mae CAH26 (Astudiaethau daearyddol ac amgylcheddol) wedi'i rannu fel bod CAH26-01-03 (Daearyddiaeth ddynol) yn cael ei gyflwyno fel 'Astudiaethau daearyddol ac amgylcheddol (gwyddorau cymdeithasol)' o fewn y grŵp 'Anwyddonol'. Cyflwynir pob cod lefel 3 CAH arall o fewn CAH26 yn y grŵp gwyddoniaeth o'r enw 'Astudiaethau daearyddol ac amgylcheddol (gwyddorau naturiol)'.

Ansawdd ystadegol

Codau

Mae gwerthoedd data â chod [t] naill ai’n gyfansymiau neu’n is-gyfansymiau.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Defnyddir ffigurau heb eu talgrynnu i gyfrifo'r cyfansymiau, ac yna talgrynnu i'r 5 agosaf. Mae'n bosib felly na fyddant yn hafal i swm y cydrannau.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Medr
E-bost cysylltu
YstadegauAU@medr.cymru