Cyfran o athrawon wedi derbyn lwfans yn ôl awdurdod lleol a math o lwfans
Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026
Diweddariadau
- 27ain Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC)
- Cyfnod amser dan sylw
- Tachwedd 2019 i Hydref 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY). Mae’r set ddata yma yn dangos y cyfran o athrawon sydd wedi derbyn lwfans yn ôl awdurdod lleol, math o lwfans, sector a rhyw.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae gwybodaeth am gyflogau (gan gynnwys cyflog cyfartalog a dosbarthiad ar draws yr ystodau cyflog) yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd yn natganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY. Cafodd cofnodion o'r datganiad hwn eu cysylltu â datganiad Ysgol y CBGY gan ddefnyddio'r set ddata ofynnol i ddarparu dadansoddiad fesul sector ysgol (h.y. cynradd, uwchradd, ac ati). Lle nad oedd cofnod cyfatebol yn natganiad Ysgol y CBGY, mae'r sector wedi'i gofnodi fel 'Arall'.
Ni chwblhawyd a gweithredu dyfarniadau codiad cyflog athrawon am y blynyddoedd academaidd 2022/23 a 2024/25 tan ar ôl dyddiad y cyfrifiad CBGY ym mis Tachwedd 2022 a Thachwedd 2024 yn ôl eu trefn, ac nid oedd ffigurau ar gyflogau athrawon cyhoeddwyd ar gyfer 2022/23 a 2024/25 yn adlewyrchu’r codiad tâl llawn ar gyfer y blynyddoedd hynny. O ganlyniad, nid yw'r cynydd mewn cyflog athrawon cyfartalog rhwng 2022/23 a 2023/24, a rhwng 2023/24 a 2024/25, yn adlewyrchu'r codiad tâl llawn ar gyfer y blynyddoedd hynny.
- Ansawdd ystadegol
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd o 2019 i 2024 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau. Ystyrir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol er mwyn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i adolygu'r wybodaeth a gyflwynir ganddynt, ac ailgyflwyno data lle y caiff gwallau eu nodi cyn cyhoeddi.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Cod nodyn c = niferoedd yn fwy na sero ond yn llai na pump.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- educationworkforcedata@llyw.cymru