Ceisiadau cymeradwy am Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn ôl blwyddyn academaidd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027
Diweddariadau
- 29ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
- Ffynhonnell y data
- Data gweinyddol
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2011 i Awst 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am nifer y ceisiadau cymeradwy ar gyfer Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCAs) gan fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru.
Mae cynllun LCA Cymru ar gael i bobl ifanc 16 - 18 oed (a phobl ifanc 19 - 20 oed o dan rai amgylchiadau). Mae'r cynllun wedi'i gynllunio fel cymhelliant i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel aros mewn addysg lawn amser ar ôl iddynt gyrraedd diwedd yr oedran ysgol gorfodol. Lwfans wythnosol yw'r LCA a delir bob pythefnos i fyfyrwyr.
Cafodd LCAs eu cyflwyno ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn 2004/05, a chafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys pobl ifanc 17 oed yn 2005/06 a phobl ifanc 18 oed yn 2006/07 (mae pobl ifanc 19 ac 20 oed yn gymwys hefyd o dan rai amgylchiadau, felly byddent yn cael eu cynnwys mewn ffigurau o 2007/08 ymlaen).
Roedd y dyfarniadau LCA yn £10, £20 neu £30 yr wythnos i ddechrau (yn dibynnu ar incwm y cartref). O 2011/12 daeth dyfarniadau LCA yn £30 yr wythnos ac o 17 Ebrill 2023 cynyddwyd LCA i £40 yr wythnos.
Mae canolfannau dysgu eraill yn cynnwys ysgolion arbennig, ysgolion gramadeg ac ysgolion annibynnol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data a welir yma yn dod o gronfa ddata swyddogol SLC ar diwedd pob blwyddyn academaidd (31ain Awst).
- Ansawdd ystadegol
Mae ffigurau StatsCymru yn cael eu diweddaru yn flynyddol ac yn gywir adeg y cyhoeddi hwn. Maent yn amodol ar ddiwygiadau yn dilyn gwaith prosesu SLC pellach.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru