Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl rhyw, oedran, chymhwyster a flwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp oedran
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026

Diweddariadau

19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Cyflwynir data ar gyfer oedolion o oedran gweithio yn seiliedig ar y diffiniad cyfredol o ddynion a menywod 18-64 oed a'r diffiniad hanesyddol o fenywod 18-59 oed a dynion 18-64 oed. Mae hyn fel y cyfeirir ato mewn datganiadau cynharach (cyn ddata 2015) – yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Nodwch mai dim ond o 2008 ymlaen y mae data ar gyfer oedolion o oedran gweithio, ar sail dynion a menywod 18-64 oed. Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn lefelau cymwysterau. Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion cenedlaethol (8 - Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) a dwy garreg filltir genedlaethol gysylltiedig. Mae’r ystadegau hyn, ynghyd â’r dangosydd cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol wedi’u cynnwys yn benodol yn Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.

Cyfrifo neu gasglu data

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth/Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r data a ddangosir wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2004 ymlaen, ac o Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol Cymru ar gyfer 2001-2003; mae’r ddau’n arolygon o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O 2001 ymlaen, roedd data’r Arolwg blynyddol o’r Llafurlu Lleol a gasglwyd yng Nghymru wedi’u seilio ar sampl oedd cryn dipyn yn fwy.

Mae’r arolwg yn gofyn i’r ymatebwyr am y cymwysterau sydd ganddynt, ac o’r wybodaeth hon cyfrifir y cymhwyster uchaf sydd gan yr ymatebydd. Caiff y cymwysterau uchaf eu grwpio i lefelau’r. Rhoddir ffigurau ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cymwysterau ar lefel benodol o leiaf, a chymwysterau hyd at a chan gynnwys lefel benodol.

O’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. O fis Medi 2004 ymlaen, ehangwyd y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) a rhannwyd y lefelau blaenorol 4 a 5 i lefelau manylach (4-8). Dangosir data yn awr yn unol â’r dosbarthiad hwn.

Does dim modd cymharu'r ystadegau a gyflwynir yma ar gyfer 2022 gyda'r blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau i’r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r cwestiynau, wedi’u seilio’n flaenorol ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC), wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae rhagor o fanylion ynghylch hyn i’w gweld yn Gwybodaeth am Ansawdd y datganiad ystadegol. Ar gyfer blynyddoedd a labelir 2001 tan 2003 yn y set ddata hon, y cyfnodau gwirioneddol a gwmpesir yw'r 12 mis rhwng mis Mawrth y flwyddyn gyntaf a mis Chwefror y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 tan 28 Chwefror 2002).

Ers 2004, mae data blynyddol o'r Arolwg o'r Gweithlu wedi'i gynhyrchu ar dreigl blynyddol, a'i ddiweddaru bob tri mis. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl ar sail galendr, gyda'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a gyflwynir yma yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2004 a 31 Rhagfyr 2004.

Felly, noder bod yna orgyffwrdd o ddau fis rhwng y cyfnod diwethaf a gyflwynwyd ar yr hen sail Mawrth tan Chwefror, a'r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.

Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n seiliedig ar amcangyfrifon sampl ac felly'n amodol ar wahanol raddau o amrywioldeb h.y. mae gwerth go iawn unrhyw fesuriad yn deillio o amrywiaeth y gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod neu'r amrywioldeb hwn yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu; er enghraifft, mae data awdurdod lleol yn amodol ar fwy o amrywioldeb na data rhanbarthol.

Dosbarthwyd yr amcangyfrifon hyn yn flaenorol fel ystadegau swyddogol achrededig. Mae'r ABB wedi gweld gostyngiad mewn meintiau samplau dros y blynyddoedd diwethaf, o ystyried hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ail bwyso i'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae'r Swyddfa Rheolei Ystadegau (SWRY) wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ail-ddynodi'r amcangyfrifon fel ystadegau swyddogol (SWRY).

Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru, fodd bynnag, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaeth llai neu is-grwpiau poblogaeth yn llai dibynadwy.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae canrannau wedi'u talgrynnu i un lle degol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru