Presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol disgyblion o oedran ysgol uwchradd
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 29ain Medi 2026
Wedi'i ddiweddaru i gynnwys data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26.
- 29ain Medi 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cofnod presenoldeb disgyblion
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2013 i Awst 2026
- ID y set ddata
- 6eab4af9-8892-4361-88f4-4d60544993b1
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r set ddata hon yn cyflwyno canrannau presenoldeb ac absenoldeb ar gyfer disgyblion yn y casgliad presenoldeb blynyddol ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae’n dangos canran y sesiynau hanner diwrnod posibl a fynychwyd, a gollwyd, a gollwyd oherwydd absenoldeb awdurdodedig ac a gollwyd oherwydd absenoldeb anawdurdodedig.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cesglir data presenoldeb yn flynyddol oddi wrth ysgolion a gynhelir yng Nghymru drwy’r casgliad statudol o ddata presenoldeb ysgolion. Mae’r casgliad ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn cwmpasu disgyblion 11 i 15 oed a phresenoldeb o ddechrau’r flwyddyn academaidd hyd at Ŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai. Cyfrifir canrannau presenoldeb ar sail y sesiynau hanner diwrnod posibl a’r sesiynau absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig.
- Ansawdd ystadegol
Nid oes data o’r casgliad presenoldeb blynyddol ar gael ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019/20, 2020/21 na 2021/22 oherwydd bod y casgliad wedi cael ei atal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r casgliad ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn cwmpasu presenoldeb hyd at Ŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai yn unig, ac nid oes modd ei gymharu’n uniongyrchol â’r casgliad blwyddyn lawn ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae’r holl ganrannau a gyhoeddir wedi’u talgrynnu i un lle degol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.ysgolion@llyw.cymru