Dysgwyr Twf Swyddi Cymru Plws yn ôl rhyw, elfen, darparwr a mesur

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn ariannol
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Darparwr
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Elfen
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026

Diweddariadau

15fed Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2022 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r tabl hwn yn darparu data blynyddoedd ariannol ar Twf Swyddi Cymru Plws. Pwrpas Rhaglen Ieuenctid Twf Swyddi Cymru Plws yw darparu hyfforddiant, cyfleoedd datblygu a chymorth cyflogadwyedd cyfunol wedi’i deilwra i’r unigolyn ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n cael eu hasesu’n NEET (Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) wrth ddechrau’r rhaglen.

O ddechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws ym mis Ebrill 2022 tan ddiwedd Rhagfyr 2023, roedd cyrchfannau’r rhai a oedd yn gadael y rhaglen yn cynrychioli’r cyrchfannau o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen. O fis Ionawr 2024, mae hyn wedi’i addasu i fesur cyrchfannau o fewn wyth wythnos i adael y rhaglen.

Mae deilliant cadarnhaol yn golygu un ai symud ymlaen i ddysgu lefel uwch, symud ymlaen i gyflogaeth (amser llawn, rhan-amser neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i brentisiaeth. Dros dro yw'r data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf a chânt eu diwygio pan gyhoeddir data'r flwyddyn nesaf.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Tachwedd 2025 ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Rhaid i Gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ gyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru yn fisol o leiaf ar bob person ifanc a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau o dan raglen Twf Swyddi Cymru+. Mae manyleb y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn manylu’r ofynion cofnodi a chyflwyno data i gontractwyr.

Ansawdd ystadegol

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu gynhyrchu a'u gyhoeddi yn unol â sawl datganiad a phrotocal i wella dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Datganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae ffeiliau a gyflwynir ar gyfer eu huwchlwytho i Gofrestr Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn mynd trwy gyfres o wirio dilysrwydd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynnalwyr contract i ddatrys unrhyw faterion sy'n ymwneud â data, lle bo angen.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf. Cyfrifir y canrannau ar sail y ffigurau heb eu talgrynnu.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru