Canlyniadau prentisiaethau yn ôl sector, rhanbarth cartref, math o raglen, grŵp oedran, rhywedd, a blwyddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Chwefror 2027
Diweddariadau
- 14eg Gorffennaf 2026
Diweddarwyd y metadata.
- 18fed Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
- Cyfnod amser dan sylw
- Awst 2016 i Gorffennaf 2025
- ID y set ddata
- 572def66-eb0d-4527-b29f-7b2f9c2f7c6a
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn darparu nifer y llwyddiannau a'r cyfraddau llwyddo ar gyfer gweithgareddau Dysgu Oedolion yng Nghymru. Mae'r data yn cynnwys Dysgu Oedolion a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol.
Nifer y gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd sy’n cael ei gyfrif, nid nifer y dysgwyr. Yr enwadur ar gyfer y cyfraddau llwyddo yw nifer y gweithgareddau dysgu a gwblhawyd y gellir eu hasesu (gyda nifer bach o eithriadau, gan gynnwys trosglwyddiadau).
Mae'r set ddata'n cynnwys y newidynnau canlynol:
Blwyddyn academaidd – O 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Sector - Y math o waith neu hyfforddiant y mae'r dysgwr yn ymgymryd ag ef. Gellir ei rannu'n fframweithiau sector unigol.
Grŵp oedran – Oedran y dysgwr ar 31 Awst y flwyddyn academaidd.
Rhanbarth cartref - Awdurdod lleol domisil y dysgwyr, a gyfrifwyd gan ddefnyddio cod post cartref y dysgwr.
Rhywedd - Fe'i dangosir fel y caiff ei gasglu yn y data, ond nid yw hyn yn dilyn yr arferion gorau. Byddwn yn gwerthuso'r ffordd y dylid casglu data rhywedd a/neu ryw yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Math o raglen - Prentisiaethau ar dair lefel: prentisiaethau sylfaen lefel 2, prentisiaethau lefel 3, prentisiaethau uwch lefel 4 i 5.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae data yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2024/25 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2025.
- Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau. Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda [c].
Mae canrannau wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio ffigyrau heb eu talgrynnu ac wedi cael eu talgrynnu i’r 1% agosaf. Os yw’r enwadur ar gyfer canran yn llai na 23 yna mae’r ganran wedi cael eu chelu.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Medr
- E-bost cysylltu
- ystadegau@medr.cymru