Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw, Mawrth 2022 ymlaen
Disgwylir y diweddariad nesaf:21 Mai 2026
Diweddariadau
- 23ain Ebrill 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 19eg Mawrth 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 19eg Chwefror 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 22ain Ionawr 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 14eg Ionawr 2026
Nid oedd cyfanswm ffigurau Cymru ar gyfer Medi a Hydref 2025, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 13 Ionawr 2026, yn cynnwys data ar gyfer rhanbarth y De-ddwyrain. Cywirwyd y rhain ar 14 Ionawr
- 13eg Ionawr 2026
Diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo'n berthnasol
- 18fed Rhagfyr 2025
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 4ydd Rhagfyr 2025
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 23ain Hydref 2025
- 26ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Gwybodaeth reoli
- Darparwr data
- Ymddiriedolaethau GIG a Byrddau Iechyd Lleol
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Mawrth 2022 i Chwefror 2026
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r tabl hwn yn darparu amcangyfrif o niferoedd y cleifion unigol ar restrau aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT) yng Nghymru fesul bwrdd iechyd lleol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar wybodaeth reoli a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol Cymru. Nid yw gwybodaeth reoli yn cael ei hasesu yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw’r data hyn yn ddarostyngedig i’r un lefel o wiriadau sicrhau ansawdd a gymhwysir i ystadegau swyddogol achrededig.
- Ansawdd ystadegol
Mae data o fis Mehefin i fis Medi 2025 wedi gwyro ychydig o'i gymharu â'r tueddiadau disgwyliedig. Byddwn yn ymchwilio i hyn ac yn diwygio'r ffigurau hyn os oes angen.
Mae gwahanol ddulliau yn cael eu defnyddio gan y byrddau iechyd i amcangyfrif nifer y cleifion unigol ar restrau aros RTT, gan adlewyrchu’r gwahanol systemau gweinyddol sylfaenol sydd ar waith. Mewn rhai achosion, mae byrddau iechyd wedi cadarnhau bod eu dulliau yn golygu ei bod yn bosibl cyfrif pob claf, ac nad oes unrhyw ddyblygu, a bod disgwyl i’r ffigurau fod yn gywir iawn felly. Mewn achosion eraill, mae’n hysbys nad yw rhai cleifion yn cael eu cynnwys wrth gyfrif – er enghraifft, am nad ydynt yn cael eu cofnodi ar yr un systemau â chleifion eraill – neu fod posibilrwydd y ceir rhywfaint o ddyblygu. Mae’r enghraifft fwyaf arwyddocaol o hyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle nad yw’n bosibl cynnwys cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig neu therapïau. Mae’r cleifion hyn yn cyfrif am tua 10% o gyfanswm y llwybrau RTT a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Disgwylir i enghreifftiau eraill o orgwmpasu a thangwmpasu gael effaith fach iawn ar y ffigurau.
Rhoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ddull gwell ar waith o amcangyfrif cleifion unigryw a gafodd ei gymhwyso i’r data o fis Ebrill 2023 ymlaen. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu’r ffigurau ar gyfer BIPBC cyn mis Ebrill 2023 yn uniongyrchol â’r rhai wedi hynny. Cafodd y dull newydd yr effaith o leihau’r amcangyfrifon ar gyfer BIPBC o tua 4,000 o’u cymharu â’r dull blaenorol. Roedd hyn tua 3% o’r ffigur ar gyfer BIPBC. Effaith fach a gafwyd ar y ffigurau ar lefel Cymru gyfan, a gwelwyd lleihad o lai nag 1% o’i gymharu â’r fethodoleg flaenorol.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru