Dysgwyr dysgu oedolion yn y gymuned yn ôl darparwr, rhanbarth cartref, math o ddarpariaeth a gwybodaeth ddemograffig
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026
Diweddariadau
- 26ain Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
- Darparwr data 2
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
- Cyfnod amser dan sylw
- Awst 2016 i Gorffennaf 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Dysgwyr sy'n ymgymryd â gweithgareddau dysgu oedolion yn y gymuned. Mae'n cynnwys gweithgareddau dysgu cymunedol awdurdod lleol, a gweithgareddau dysgu cymunedol a gynhelir gan golegau ar ffurf addysg bellach ran-amser.
Mae'r set ddata'n cynnwys y newidynnau canlynol:
Blwyddyn academaidd: O 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Rhanbarth cartref: Awdurdod lleol domisil y dysgwyr, a gyfrifwyd gan ddefnyddio cod post cartref y dysgwr.
Darparwr: Darparwr arweiniol y gweithgareddau dysgu. Os bydd darparwyr wedi uno, bydd y data hanesyddol yn cynnwys yr holl ddarparwyr blaenorol. Darparwyr nad ydynt yn bodoli fel darparwyr arweiniol yn y flwyddyn ddiweddaraf yw darparwyr hanesyddol.
Grŵp oedran: Oedran y dysgwr ar 31 Awst y flwyddyn academaidd.
Rhywedd: Fe'i dangosir fel y caiff ei gasglu yn y data, ond nid yw hyn yn dilyn yr arferion gorau. Byddwn yn gwerthuso'r ffordd y dylid casglu data rhywedd a/neu ryw yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Mesur demograffig: Mathau o wybodaeth am nodweddion.
Gwerth demograffig: Nodweddion unigol y mesur demograffig.
Amddifadedd cymdogaeth gartref: Cwintel yr ardal yn seiliedig ar god post y dysgwr ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
Cefndir ethnig: Caiff ei gategoreiddio i bum grŵp cyffredinol, a 18 o is-grwpiau.
Anabledd neu anhawster dysgu: Mae mathau o anabledd neu anhawster dysgu (ADD) yn ymwneud dim ond â dysgwyr sydd ag AAD sy'n effeithio ar eu gallu i ddysgu a/neu ddefnyddio cyfleusterau o fath a gyflenwir fel arfer gan y darparwr dysgu, ac maent wedi'u seilio ar asesiad y dysgwr ei hun o'i iechyd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yw’r system casglu data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i alluogi darparwyr AB, dysgu seiliedig-ar-waith a dysgu cymunedol awdurdodau lleol i gyflwyno data unigoledig ar-lein ar ddysgwyr, a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau dysgu.
Mae systemau Llywodraeth Cymru’n llwytho’r data ar gronfa ddata i hwyluso gwaith dadansoddi. Wedyn trosglwyddir y gronfa ddata i Medr i’w phrosesu a’i dadansoddi. Ceir rhagor o wybodaeth am LLWR gan gynnwys llawlyfrau cymorth i ddefnyddwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.
Caiff y data a ddefnyddir yn yr ystadegau hyn ei echdynnu o LLWR ar y dydd Iau yn y drydedd wythnos lawn ym mis Rhagfyr.
Prif ddiben LLWR yw darparu data ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol i hwyluso’r broses o gynllunio a chyllido darpariaeth ddysgu a gyflwynir. Mae data LLWR hefyd yn sail ar gyfer monitro perfformiad a deilliannau, goleuo strategaeth a datblygu a darparu ystadegau ar AB/dysgu seiliedig-ar-waith/dysgu cymunedol awdurdodau lleol yng Nghymru.
- Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau. Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda [c].
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Medr
- E-bost cysylltu
- ystadegau@medr.cymru