Amseroedd aros canser: llwybrau canser a amheuir sydd newydd agor, o fis Rhagfyr 2021 ymlaen
Disgwylir y diweddariad nesaf:21 Mai 2026
Diweddariadau
- 27ain Ebrill 2026
Metadata wedi'i ddiweddaru
- 23ain Ebrill 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu.
- 19eg Mawrth 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 19eg Chwefror 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo'n berthnasol
- 22ain Ionawr 2026
Mis newydd wedi'i ychwanegu
- 18fed Rhagfyr 2025
Mis newydd wedi'i ychwanegu.
- 21ain Tachwedd 2025
- 23ain Hydref 2025
- 26ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Lwybr Canser a Amheuir (SCP)
- Cyfnod amser dan sylw
- Rhagfyr 2021 i Chwefror 2026
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Data ar lwybrau newydd lle mae amheuaeth o ganser, cleifion sy'n dechrau triniaeth ac amseroedd aros am driniaeth canser yng Nghymru.
- Cyfrifo neu gasglu data
O dan y llwybr lle'r amheuir canser (SCP), mae'r llwybr yn dechrau ar y pwynt o amheuaeth, er enghraifft pan fydd meddyg teulu yn gwneud atgyfeiriad. Mae llwybrau yn cau, a'r amseroedd aros yn dod i ben, pan fydd cleifion yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, yn cael eu hisraddio (dywedwyd wrthynt nad oes ganddynt ganser), yn dewis peidio â chael triniaeth neu os yw'r claf yn marw. Sylwch y gall cleifion fod ar fwy nag un llwybr.
Tynnir data o systemau gweinyddol y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â rheoli cleifion a atgyfeiriwyd ar yr SCP. Adroddir am ddata yn fisol gan Fyrddau Iechyd Lleol drwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r trefniadau casglu data wedi bod ar waith ers mis Mehefin 2019.
- Ansawdd ystadegol
Mae diffiniadau a safonau data yn cael eu gorfodi gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB).
Mae data’r llwybr lle'r amheuir canser yn cael ei fesur gan lwybrau cleifion yn hytrach na chleifion unigryw. Mae hyn oherwydd gall un claf fod â llwybrau canser lluosog ar agor os amheuir canser mewn mwy nag un safle tiwmor. Wrth sicrhau ansawdd data llwybr agored ar gyfer Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2021, amcangyfrifwyd bod nifer y llwybrau a agorwyd tua 2-3% yn uwch na nifer y cleifion unigryw yr amheuir bod ganddynt ganser.
Ni ddylid gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng yr ystadegau hyn a'r ystadegau blaenorol a redodd hyd at fis Tachwedd 2020.
- Adroddiadau cysylltiedig
- Crynodeb o weithgarwch a pherfformiad y GIG (Saesneg)
- Crynodeb o weithgarwch a pherfformiad y GIG: adroddiad ansawdd (Saesneg)
- Llwybr canser a amheuir: adroddiad ansawdd (Saesneg)
- Crynodeb o weithgarwch a pherfformiad y GIG (Cymraeg)
- Crynodeb o weithgarwch a pherfformiad y GIG: adroddiad ansawdd (Cymraeg)
- Llwybr canser a amheuir: adroddiad ansawdd (Cymraeg)
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru