Mesur Iechyd Meddwl Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd Iechyd y Preswylydd
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
138 o 138 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oedran a Gwasanaeth
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:27 Mai 2026

Diweddariadau

25ain Chwefror 2026

Chwarter newydd wedi’i ychwanegu a diwygiadau wedi'u cymhwyso i ddata blaenorol lle bo hynny’n berthnasol.

26ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Gwybodaeth reoli
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Casglu data Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)
Cyfnod amser dan sylw
Gorffennaf 2014 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae Rhan 2 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn rhoi'r hawl i bob person sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gael Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP). Mae CTP yn gynllun ysgrifenedig sy'n amlinellu'r cymorth a'r gwasanaethau y bydd person yn eu cael i fynd i'r afael â'u hanghenion iechyd meddwl. Er mwyn i CTP gael ei ystyried yn ddilys, rhaid iddo fod yn gyfredol a heb basio ei ddyddiad adolygu (uchafswm o 12 mis).

Mae'r tabl hwn yn darparu data misol ar gleifion sy'n preswylio ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru sydd â CTP dilys. Mae'r tabl yn dangos:

  • nifer y cleifion preswyl a oedd â CTP dilys
  • nifer y cleifion preswyl sy'n cael gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ar hyn o bryd
  • canran y cleifion sy'n cael gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd sydd â CTP dilys

Dangosir data o fis Gorffennaf 2014 i fis Mawrth 2020 fel cyfanswm ar gyfer yr holl wasanaethau, yn ogystal â dadansoddiad fesul gwasanaeth:

  • Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)
  • Iechyd Meddwl Oedolion
  • Iechyd Meddwl Pobl Hŷn
  • Anableddau Dysgu

O fis Ebrill 2020, yn ogystal â'r cyfanswm, mae'r rhaniad gwasanaeth wedi'i ddisodli gan raniad oedran:

  • o dan 18 oed - yn cynnwys y rhai mewn CAMHS a'r rhai o dan 18 oed mewn gwasanaethau Anableddau Dysgu
  • 18 oed a throsodd – yn cynnwys y rhai mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn a'r rhai 18 oed a throsodd mewn gwasanaethau Anableddau Dysgu

Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Mawrth 2023, ni lwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyflwyno data gan fod system TG iechyd meddwl newydd yn cael ei rhoi ar waith. Felly, cafodd y data ar gyfer mis Mehefin 2022 ei ddwyn ymlaen bob mis i gwmpasu'r cyfnod hwn. Ym mis Ebrill 2023, ailddechreuodd y bwrdd iechyd gyflwyno data a, thros y 12 mis nesaf, cynhaliodd wiriadau dilysu helaeth i sicrhau bod data cywir yn cael ei adrodd o fis Ebrill 2024 ymlaen.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn cael ffurflenni adrodd Iechyd Meddwl bob mis gan bob bwrdd iechyd. Mae'r safonau sy'n ymwneud â'r ffurflenni wedi'u hadolygu a'u pasio gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) a Grŵp Datblygu Gwybodaeth Cymru (WIDG) (a elwid gynt yr Is-grŵp Hysbysiad Newid Safonau Data).

Ansawdd ystadegol

Mae Is-adran Perfformiad GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru yn lanlwytho'r data a ddaw i law bob chwarter. Mae'r system prosesu data a ddefnyddir yn sicrhau nad yw data ar goll o'r ffurflenni. Yna cynhelir gwiriadau dilysu a gwirio pellach bob chwarter, gan gynnwys, er enghraifft, gwirio tueddiadau yn y data ac unrhyw ddirywiad sylweddol mewn perfformiad yn erbyn y targedau a osodwyd. Mae unrhyw annormaleddau yn y data yn cael eu nodi a'u codi gyda'r bwrdd iechyd perthnasol, gan alluogi'r bwrdd iechyd i wirio, cywiro neu wneud sylwadau ar eu data ac i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol lle bo hynny'n berthnasol.

Os canfyddir bod gwerth data a gyhoeddwyd yn flaenorol yn anghywir a'i fod wedyn yn cael ei gywiro neu ei fod wedi'i newid i wella cywirdeb, ychwanegir r at y gwerth data perthnasol yn y cyhoeddiad nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym [Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: adroddiad ansawdd] (https://www.llyw.cymru/mesur-iechyd-meddwl-cymru-2010-adroddiad-ansawdd)

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
hss.performance@llyw.cymru