Staff addysg uwch yng Nghymru yn ôl nodweddion personol a dosbarthiad galwedigaethol safonol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sefydliad
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Nodweddion personol
20 o 20 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o Gontract
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dull o Gontract
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Galwedigaeth
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Chwefror 2027

Diweddariadau

24ain Chwefror 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Ffynhonnell y data
Cofnod staff

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data'n dangos nifer y staff mewn prifysgolion yng Nghymru, naill ai ar sail yr hyn sy'n gyfwerth â pherson llawn neu'r hyn sy'n gyfwerth ag amser llawn.Gellir dadansoddi'r data yn ôl y canlynol:

  • Blwyddyn academaidd

  • Modd contract – amser llawn neu ran-amser.

  • Math o gontract – naill ai anacademaidd, academaidd nodweddiadol, neu academaidd annodweddiadol. Gweler yr adran ar gasglu data am ragor o wybodaeth am y rhain.

  • Sefydliad

  • Galwedigaeth – yn seiliedig ar Ddosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020 ar gyfer 2023/24 a hwyrach, a Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2010 ar gyfer 2022/23 a chynharach.

  • Nodweddion personol – grŵp oedran, statws anabledd neu ethnigrwydd.

  • Rhyw – rhyw'r staff yn hytrach na'r rhywedd y maent yn uniaethu ag ef. Mae staff y cofnodwyd eu rhyw fel ‘Arall’, ‘Ddim ar gael’ neu ‘Wedi gwrthod rhoi'r wybodaeth’ wedi'u cynnwys yn y cyfansymiau.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ynglŷn â nodweddion y staff a gyflogir ar gontract cyflogaeth gan ddarparwyr addysg uwch yn y DU sy'n cyflwyno data. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu'r wyth prifysgol sy'n cyflwyno data ynglŷn â'u staff. Mae'r Brifysgol Agored hefyd yn cyflwyno data ynglŷn â'i staff, ond nid oes modd adnabod y staff sy'n ymwneud â darpariaeth i fyfyrwyr o Gymru ar wahân ac felly nid yw'r Brifysgol Agored wedi'i chynnwys yn y data hyn.

Poblogaethau cyfwerth â pherson llawn

Ar gyfer staff ar gontractau nodweddiadol, mae'r data'n cynnwys y rhai roedd eu contractau'n weithredol ar 1 Rhagfyr yn ystod y cyfnod adrodd, er enghraifft ar gyfer 2024/25 roedd yr holl gontractau'n weithredol ar 1 Rhagfyr 2024. Ar gyfer staff ar gontractau annodweddiadol, mae'r data'n cynnwys aelodau o staff roedd eu hunig gontractau gweithredol yn ystod y cyfnod adrodd yn rhai annodweddiadol.

Yr hyn sy'n gyfwerth â pherson llawn pan fydd gan aelod o staff fwy nag un contract

Pe bai gan aelod o staff gontract academaidd i weithio 3 diwrnod yr wythnos a chontract anacademaidd i weithio 1 diwrnod yr wythnos, byddai'n cyfrif fel 0.75 aelod o staff ar gontract academaidd a 0.25 aelod o staff ar gontract anacademaidd.

Poblogaeth gyfwerth ag amser llawn

Mae'r hyn sy'n gyfwerth ag amser llawn (FTE) yn golygu'r gyfran o flwyddyn amser llawn a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod adrodd o 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Felly, caiff yr FTE ei gyfrif gan ddefnyddio poblogaeth o staff a oedd yn weithredol yn ystod y cyfnod adrodd, ac nid dim ond ar ddyddiad ciplun penodol.

Gontractau academaidd

Diffinnir staff ar gontract academaidd fel staff sydd â chontract ar gyfer cynllunio, cyfarwyddo a chynnal gweithgareddau addysgu ac ymchwil academaidd o fewn sefydliadau addysg uwch. Ymhlith yr enghreifftiau o gontractau o'r fath mae contractau is-gangellorion, ymarferwyr meddygol, deintyddion, milfeddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n ymgymryd â gweithgareddau darlithio neu ymchwil.

Gontractau anacademaidd

Diffinnir staff ar gontract anacademaidd fel aelodau o staff nad oes ganddynt gontract academaidd, gan gynnwys rheolwyr, gweithwyr anacademaidd proffesiynol, gweithwyr lles myfyrwyr, ysgrifenyddion, gofalwyr a glanhawyr.

Chontractau annodweddiadol

Ystyr staff annodweddiadol yw'r staff hynny y mae eu contractau'n cynnwys trefniadau gweithio nad ydynt yn barhaol, cydberthnasau cyflogaeth cymhleth a/neu waith heb oruchwyliaeth y darparwr gwaith arferol.

Ansawdd ystadegol

Oedran

Oedran ar 31 Awst yn y flwyddyn adrodd, e.e. 31 Awst 2024 ar gyfer 2024/25.

Anabledd

Caiff gwybodaeth am anabledd ei chasglu ar sail hunanasesiadau aelodau o staff, ac nid oes rhaid i staff roi gwybod am unrhyw anableddau sydd ganddynt.

Ethnigrwydd

Caiff gwybodaeth am ethnigrwydd ei chasglu ar sail hunanasesiadau aelodau o staff, ac nid oes rhaid i staff roi gwybod beth yw eu hethnigrwydd.

Rhyw

Mae hyn yn cyfeirio at ryw'r aelod o staff, yn hytrach na'r rhywedd y mae'n uniaethu ag ef.

O 2022/23 ymlaen, cafodd canllawiau ychwanegol i ddarparwyr eu cynnwys sy'n dweud y dylai rhyw fod yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi'i gofnodi yn nogfennau cyfreithiol unigolyn, megis ei dystysgrif geni, ei Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, neu ei basbort. Dim ond ar gyfer trydydd rhyw a gydnabyddir yn gyfreithiol gan wlad arall y dylid defnyddio'r categori ‘Arall’. Cafodd opsiynau i gofnodi ‘Wedi gwrthod rhoi'r wybodaeth’ neu ‘Ddim ar gael’ ar gyfer staff eu cyflwyno yn 2022/23 hefyd.

Cyn 2022/23, roedd y maes rhyw yn seiliedig ar ddewis ryw unigolyn, ac roedd y categori ‘Arall’ yn cynnwys pobl y mae eu rhyw yn cyd-fynd â thermau fel rhyngryw, androgyn, rhyngryweddol, deuryweddol, rhyweddhylifol, amlryweddol a rhywedd cwiar.

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff ffigurau eu talgrynnu i'r 5 agosaf. Caiff cyfansymiau eu cyfrifo ar sail ffigurau heb eu talgrynnu ac yna eu talgrynnu i'r 5 agosaf, felly mae'n bosibl na fyddant yn hafal i swm y rhannau cyfansoddol.

Caiff canrannau eu cyfrifo gan ddefnyddio'r ffigurau heb eu talgrynnu. Gall hyn olygu na fydd y canrannau'n cyfateb i'r hyn a fyddai'n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio ffigurau wedi'u talgrynnu.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Medr
E-bost cysylltu
YstadegauAU@medr.cymru