Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes addysg

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

22ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 1
Cyfrifiad 2011
Darparwr data 2
Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Ffynhonnell y data 2
Cofnod myfyrwyr
Darparwr data 3
Yr Adran Addysg
Ffynhonnell y data 3
Absenoliaeth a chyrhaeddiad disgyblion
Darparwr data 4
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 4
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
Darparwr data 5
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 5
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nodyn: nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: am y data diweddaraf ewch i Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau.

Roedd y rhifyn 2019 wedi raddio pob un o’r 1,909 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs a ddiffinnir ar ôl Cyfrifiad 2011) o’r mwyaf (gradd 1) i’r lleiaf (gradd 1,909) difreintiedig. Mae'n cyfuno 47 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (22%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (7%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae'r data sydd yma ar gyfer dangosyddion sylfaenol sy'n bwydo i mewn i fynegai amddifadedd lluosog Cymru 2019.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 6 dangosydd sy'n ffurfio'r maes addysg. Mae pob dangosydd wedi'i dalgrynnu i un lle degol ar wahân i sgôr pwynt cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 sy'n cael ei dalgrynnu i rif cyfan.

Ataliwyd data sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ac absenoldeb mynych os oedd yr enwadur yn llai na 5 disgybl.

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw cofnodi graddau'r amddifadedd sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bwriedir iddo adlewyrchu anfanteision addysgol mewn ardal o ran diffyg cymwysterau neu sgiliau. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 14% yn y mynegai cyffredinol.

Mae chwe dangosydd yn y maes addysg, sydd wedi'u pwysoli fel a ganlyn.

  • 9.9% Sgôr Pwyntiau Cyfartalog y Cyfnod Sylfaen
  • 11.7% Sgôr Pwyntiau Cyfartalog Cyfnod Allweddol 2
  • 27.6% Sgôr Pwyntiau Cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer Pynciau Craidd
  • 21.7% Absenoldeb Mynych
  • 13.2% Cyfran y disgyblion sy'n gadael Cyfnod Allweddol 4 ac sy'n mynd i Addysg Uwch
  • 16.0% Nifer yr Oedolion 25-64 oed Heb Gymwysterau

Cafodd pwysau nifer yr oedolion 25-64 oed heb unrhyw gymwysterau ei gapio ar 16%. Defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau'r dangosyddion eraill. Ar gyfer pob dangosydd, cafodd pob ACEHI ei rhoi mewn trefn restrol, gyda'r ACEHI fwyaf difreintiedig yn safle 1 a'r ACEHI leiaf difreintiedig yn safle 1,909. Cafodd y safleoedd hyn eu pennu i wasgariad normal, gyda safleoedd isel yn cael sgôr wedi'i normaleiddio isel. Wedyn, fe'u cyfunwyd gan ddefnyddio'r pwysoliadau uchod.

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2019 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2019 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 47 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru