Canlyniadau prentisiaethau yn ôl gwybodaeth ddemograffig, rhanbarth cartref, grŵp oedran, rhywedd, a blywddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Chwefror 2027
Diweddariadau
- 18fed Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
- Darparwr data 2
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC)
- Darparwr data 3
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
- Cyfnod amser dan sylw
- Awst 2016 i Gorffennaf 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn darparu nifer y llwyddiannau a'r cyfraddau llwyddo ar gyfer gweithgareddau Dysgu Oedolion yng Nghymru. Mae'r data yn cynnwys Dysgu Oedolion a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol.
Nifer y gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd sy’n cael ei gyfrif, nid nifer y dysgwyr. Yr enwadur ar gyfer y cyfraddau llwyddo yw nifer y gweithgareddau dysgu a gwblhawyd y gellir eu hasesu (gyda nifer bach o eithriadau, gan gynnwys trosglwyddiadau).
Mae'r set ddata'n cynnwys y newidynnau canlynol:
Blwyddyn academaidd – O 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Math o raglen - Prentisiaethau ar dair lefel: prentisiaethau sylfaen lefel 2, prentisiaethau lefel 3, prentisiaethau uwch lefel 4 i 5.
Grŵp oedran – Oedran y dysgwr ar 31 Awst y flwyddyn academaidd.
Rhanbarth cartref - Awdurdod lleol domisil y dysgwyr, a gyfrifwyd gan ddefnyddio cod post cartref y dysgwr.
Rhywedd - Fe'i dangosir fel y caiff ei gasglu yn y data, ond nid yw hyn yn dilyn yr arferion gorau. Byddwn yn gwerthuso'r ffordd y dylid casglu data rhywedd a/neu ryw yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Mesur demograffig: Mathau o wybodaeth am nodweddion.
Gwerth demograffig: Nodweddion unigol y mesur demograffig.
Amddifadedd cymdogaeth gartref: Cwintel yr ardal yn seiliedig ar god post y dysgwr ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
Yn gymwys ar unrhyw adeg i gael Prydau Ysgol Am Ddim: Mae cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim yn fesuriad procsi o brofiad yr unigolyn o amddifadedd. Diffinnir dysgwr yn yr adroddiad hwn fel dysgwr a fu “yn gymwys ar unrhyw adeg i gael Prydau Ysgol Am Ddim” os oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod eu haddysg mewn ysgol uwchradd yng Nghymru. Os nad oeddent yn gymwys yn ystod unrhyw flwyddyn mewn ysgol uwchradd yng Nghymru fe’u disgrifir fel ‘erioed yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim’. Caiff dysgwyr nad oedd modd eu paru â chofnod ysgol uwchradd yng Nghymru eu categoreiddio fel anhysbys.
Cefndir ethnig: Caiff ei gategoreiddio i bum grŵp cyffredinol, a 18 o is-grwpiau.
Anabledd neu anhawster dysgu: Mae mathau o anabledd neu anhawster dysgu (ADD) yn ymwneud dim ond â dysgwyr sydd ag AAD sy'n effeithio ar eu gallu i ddysgu a/neu ddefnyddio cyfleusterau o fath a gyflenwir fel arfer gan y darparwr dysgu, ac maent wedi'u seilio ar asesiad y dysgwr ei hun o'i iechyd.
- Cyfrifo neu gasglu data
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2016/17 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2017.
Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
- Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau. Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda [c].
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Medr
- E-bost cysylltu
- ystadegau@medr.cymru