Presenoldeb ac absenoldeb disgyblion o oedran ysgol uwchradd yn ôl cod presenoldeb
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 30ain Medi 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cofnod presenoldeb disgyblion
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2013 i Awst 2026
- ID y set ddata
- 192ff0d3-d6e9-4edb-97ab-2f35dcd2246c
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r set ddata hon yn cyflwyno dosbarthiad y codau presenoldeb statudol ar gyfer disgyblion yn y casgliad presenoldeb blynyddol ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae’n dangos pob cod presenoldeb fel canran o’i gategori presenoldeb, o’i gategori presenoldeb eang ac o’r holl sesiynau cod presenoldeb a gofnodwyd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cesglir data presenoldeb yn flynyddol oddi wrth ysgolion a gynhelir yng Nghymru drwy’r casgliad statudol o ddata presenoldeb ysgolion. Mae’r casgliad ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn cwmpasu disgyblion 11 i 15 oed a phresenoldeb o ddechrau’r flwyddyn academaidd hyd at Ŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai. Cyfrifir canrannau presenoldeb ar sail y sesiynau hanner diwrnod posibl a’r sesiynau absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig.
- Ansawdd ystadegol
Nid oes data o’r casgliad presenoldeb blynyddol ar gael ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019/20, 2020/21 na 2021/22 oherwydd bod y casgliad wedi cael ei atal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r casgliad ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn cwmpasu presenoldeb hyd at Ŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai yn unig, ac nid oes modd ei gymharu’n uniongyrchol â’r casgliad blwyddyn lawn ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae’r holl ganrannau a gyhoeddir wedi’u talgrynnu i un lle degol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.ysgolion@llyw.cymru