Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd fesul amddifadedd, grŵp oedran, math o raglen, rhywedd, chwarter a blwyddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mai 2026
Diweddariadau
- 19eg Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC)
- Darparwr data 2
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
- Cyfnod amser dan sylw
- Awst 2017 i Gorffennaf 2026
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn cynnwys nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddilynir yng Nghymru mewn sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant preifat. Nid yw'n cynnwys prentisiaethau a gynhelir gan sefydliadau addysg uwch. Nid yw'n cynnwys gradd-brentisiaethau.
Mae'r set ddata'n cynnwys y newidynnau canlynol:
Blwyddyn academaidd – O 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Chwarter – Ch1 (Awst i Hyd), Ch2 (Tach i Ion), Ch3 (Chwe i Ebr), Ch4 (Mai i Gorff).
Math o raglen – Prentisiaethau ar dair lefel: prentisiaethau sylfaen lefel 2, prentisiaethau lefel 3, prentisiaethau uwch lefel 4+.
Amddifadedd – Yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025, mae'r degradd amddifadedd cyntaf yn cynrychioli dysgwyr yn y 10% o ardaloedd â'r mwyaf o amddifadedd ac mae'r degfed degradd yn cynrychioli'r 10% o ardaloedd â'r lleiaf o amddifadedd.
Grŵp oedran – Oedran y dysgwr ar 31 Awst y flwyddyn academaidd.
Rhanbarth cartref – Awdurdod lleol domisil y dysgwyr, a gyfrifwyd gan ddefnyddio cod post cartref y dysgwr.
Rhywedd – Fe'i dangosir fel y caiff ei gasglu yn y data, ond nid yw hyn yn dilyn yr arferion gorau. Byddwn yn gwerthuso'r ffordd y dylid casglu data rhywedd a/neu ryw yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cyfrifir data Ch1 2025/26 gan ddefnyddio rhew mis 6 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Cynhyrchwyd y rhew hwn ar 22 Ionawr 2026.
Ar 1 Awst 2021, rhoddwyd trefniadau newydd ar waith o ran contractau dysgu seiliedig ar waith. Yn sgil hyn, trosglwyddwyd tua 4,800 o brentisiaid i ddarparwyr newydd, a chrëwyd cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Fel rheol, caiff cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni, sy’n cael eu creu yn sgil trosglwyddo dysgwyr, eu cynnwys yn yr ystadegau ar niferoedd sy’n dechrau prentisiaethau, ac eithrio’r mesur targed. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, nid ydym wedi cynnwys y cofnodion hyn gan fod cymaint o ddysgwyr wedi trosglwyddo, ac y byddai’r ystadegau wedi creu darlun camarweiniol o’r niferoedd a ddechreuodd brentisiaethau yn chwarter 1 2021/22 pe baem wedi’u cynnwys.
- Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau. Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda [c].
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Medr
- E-bost cysylltu
- ystadegau@medr.cymru