Swyddi cynorthwywr addysgu wedi'u hysbysebu, nifer o ceisiadau ac apwyntiadau yn ôl awdurdod lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026
Diweddariadau
- 3ydd Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC)
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2020 i Awst 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY). Mae’r set ddata yma yn dangos y nifer o swyddi cynorthwywr addysgu wedi'u hysbysebu, nifer o ceisiadau ac apwyntiadau yn ôl awdurdod lleol. Mae’r ffigurau yn cyfeirio at gynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr ADY a staff cymorth ADY yn unig.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data ysgolion wedi’u cymryd o ddata Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) sy’n cael ei gasglu ym mis Tachwedd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd diweddariad i ganllawiau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhagfyr 2021. Pwrpas y trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yw i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru ynghyd â’r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fel cyflwynwyd yn Cymraeg 2050.
Gan bod y data yn y tabl yma wedi'u casglu yn ôl-wethredol, mae data ar gyfer 2023/24 ac ymlaen yn y tabl yma yn defnyddio’r system categoreiddio gan ddisodli’r Math Cyfrwng Ysgol sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer blynyddoedd academaidd hyd at 2022/23. Nid yw’r data yn union gymharol rhwng y ddau system categoreiddio gwahanol.
- Ansawdd ystadegol
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd rhwng 2019 a 2024 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau. Ystyrir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol er mwyn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i adolygu'r wybodaeth a gyflwynir ganddynt, ac ailgyflwyno data lle y caiff gwallau eu nodi cyn cyhoeddi.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Cod nodyn c = niferoedd yn fwy na sero ond yn llai na tri. Mae niferoedd cynorthwywr addysgu wedi’u talgrynnu i’r 3 agosaf.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- educationworkforcedata@llyw.cymru