Oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth sydd ag anabledd ar 31 Mawrth yn ôl math o amhariad, grŵp oedran a rhywedd.

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp oedran
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhywedd
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Amhariad
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mai 2026

Diweddariadau

26ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Awdurdodau Lleol
Ffynhonnell y data
Cyfrifiad oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2023 i Mawrth 2024

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth sydd ag anabledd a'r math o amhariad a adroddwyd. Mae oedolion wedi adrodd bod ganddynt anabledd yn seiliedig ar y diffiniad yn Adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gall oedolyn fod ag amhariad lluosog. Mae'r Cyfrifiad oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth (ARCS) yn seiliedig ar y diffiniad o oedolion cymwys sy’n cael gofal a chymorth, h.y. oedolion (18 oed neu hŷn) sydd â chynllun gofal a chymorth. Datblygwyd yr ARCS gyda'r awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill yn 2022. Mae data yma wedi'i rannu yn ôl nodweddion demograffig amrywiol ac yn rhoi cipolwg ar broffil oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth ar lefel awdurdod lleol ac ar lefel genedlaethol.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r ARCS yn gasgliad data ar lefel unigolyn a gyflwynir yn electronig gan yr awdurdodau lleol yn flynyddol i Lywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu gwerth blwyddyn ariannol o ddata. Rhennir y casgliad yn ddwy adran: Mae Adran 1, Manylion Craidd, wedi'i chwblhau ar gyfer pob oedolyn sydd wedi cael cynllun gofal a chymorth ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol; nid yw Adran 2, Manylion Gofal a Chymorth, yn cael ei chwblhau ond ar gyfer y rhai sydd â chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth. Gellir dod o hyd i ganllawiau manwl ar dudalen casglu data gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae'r data wedi'i ddilysu drwy ddefnyddio prosesau sicrhau ansawdd mewnol a thrwy ymgysylltu â'r darparwyr data (awdurdodau lleol) i fynd i'r afael â materion ansawdd data. Mae'r set ddata yn cael ei hagregu i ddarparu cyfrifiadau ar gyfer gwahanol gyfuniadau o nodweddion demograffig, gyda chyfansymiau ar gyfer pob categori demograffig hefyd wedi'u cynnwys.

Ansawdd ystadegol

Blwyddyn ariannol 2023-24 oedd y flwyddyn gyntaf y casglwyd data ar gyfer y cyfrifiad Oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth. Nid yw nifer yr oedolion sydd â chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2024 yn cyfateb i AD/012a nifer yr oedolion sydd â chynllun gofal a chymorth o set ddata'r Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd bod rhai awdurdodau lleol yn cynnwys gwahanol boblogaethau.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r mesurau canlynol wedi'u cymryd i leihau'r risg o ddatgelu data personol yn ddiangen. Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Lle mae llai na phum oedolyn mewn unrhyw grŵp, mae'r nifer gwirioneddol wedi'i atal a'i ddisodli gan y symbol “c”.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru