Staff cymorth wedi gadael yn ôl cyrchfan ac awdurdod lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026
Diweddariadau
- 19eg Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC)
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2020 i Awst 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY). Mae’r set ddata yma yn dangos staff cymorth wedi gadael yn ôl cyrchfan ac awdurdod lleol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data ysgolion wedi’u cymryd o ddata Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) sy’n cael ei gasglu ym mis Tachwedd bob blwyddyn.
Cyhoeddwyd diweddariad i ganllawiau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhagfyr 2021. Pwrpas y trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yw i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru ynghyd â’r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fel cyflwynwyd yn Cymraeg 2050.
Gan bod y data yn y tabl yma wedi'u casglu yn ôl-wethredol, mae data ar gyfer 2023/24 ac ymlaen yn y tabl yma yn defnyddio’r system categoreiddio gan ddisodli’r Math Cyfrwng Ysgol sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer blynyddoedd academaidd hyd at 2022/23. Nid yw’r data yn union gymharol rhwng y ddau system categoreiddio gwahanol.
- Ansawdd ystadegol
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd o 2019 i 2024 wedi ymgymryd â chyfnod dilysu ffurfiol terfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau. Ystyrir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol er mwyn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i adolygu'r wybodaeth a gyflwynir ganddynt, ac ailgyflwyno data lle y caiff gwallau eu nodi cyn cyhoeddi.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Cod nodyn c = niferoedd yn fwy na sero ond yn llai na pump. Mae niferoedd staff cymorth wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- educationworkforcedata@llyw.cymru