Amseroedd aros canolrifol gwasanaethau therapi, o Hydref 2009 ymlaen

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
197 o 197 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd iechyd lleol
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gwasanaeth
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:21 Mai 2026

Diweddariadau

27ain Ebrill 2026

Metadata wedi'i ddiweddaru

23ain Ebrill 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu

19eg Mawrth 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu.

19eg Chwefror 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu

22ain Ionawr 2026

Mis newydd wedi'i ychwanegu

18fed Rhagfyr 2025

Mis newydd wedi'i ychwanegu.

21ain Tachwedd 2025
23ain Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Diagnostig a Therapi Amseroedd Aros (DATS)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Gwybodaeth ar amserau aros, a roddwyd gan y Byrddau Iechyd Lleol, ar gyfer gwasanaethau diagnostig a gwasanaethau therapi penodol yn y GIG yng Nghymru.

Yr amser aros canolrifol yw’r ffigur yn y canol wrth restru’r holl amseroedd aros o’r byrraf i’r hiraf, felly mae hanner yr holl arosiadau o fewn yr amser hwn. Fe’i defnyddir yn aml yn lle’r cymedr gan ei fod yn llai agored i werthoedd eithafol.

Cyfrifo neu gasglu data

Tynnir data o systemau gweinyddol y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â rheoli cleifion sydd wedi'u hatgyfeirio am wasanaeth diagnostig. Adroddir am ddata yn fisol gan Fyrddau Iechyd Lleol drwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r trefniadau casglu data wedi bod ar waith ers mis Hydref 2009.

Ym mis Ebrill 2019, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiwyd enwau'r byrddau iechyd; daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Ansawdd ystadegol

Mae diffiniadau a safonau data yn cael eu gorfodi gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB).

Mae parhad yn y gyfres ddata yn cael ei effeithio gan y materion ansawdd canlynol:

Amcangyfrifwyd data ar gyfer Endosgopi Diagnostig, Deieteg, Therapi Galwedigaethol, Mesur Ffisiolegol, Ffisiotherapi a Therapi Iaith a Lleferydd ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg (Bwrdd Iechyd Hywel Dda) ar gyfer Medi 2010 – Mai 2011 gan ddefnyddio data o Awst 2010.

Amcangyfrifwyd data ffisiotherapi ar gyfer mis Hydref 2012 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio data ar gyfer Medi 2012, ac amcangyfrifwyd data ar gyfer Chwefror 2013 gan ddefnyddio data o fis Ionawr 2013.

Amcangyfrifwyd data radioleg a delweddu ar gyfer mis Mehefin 2013 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio data ar gyfer mis Mai 2013.

Amcangyfrifwyd data niwroffisioleg ar gyfer Ebrill 2014 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ddefnyddio data ar gyfer Mawrth 2014.

Cafodd ffigurau meddygaeth niwclear ar gyfer Aneurin Bevan eu hadrodd rhwng Chwefror a Gorffennaf 2015. Yn ystod y misoedd hyn nid adroddwyd ar ddata ar gyfer Sganiau Darlifiad Myocardaidd o dan feddygaeth niwclear, ond y tu allan i'r misoedd hyn, roedd y prawf hwn yn cael ei gynnwys o dan feddygaeth niwclear. Roedd y gostyngiad yn nifer y cleifion a welwyd yn Chwefror 2015 a'r cynnydd a welwyd yn Awst 2015 felly i'w briodoli i'r ffordd yr adroddwyd ar y data, yn hytrach na newidiadau yn nifer y cleifion. Mae hyn wedi arwain at wahaniaeth o ryw 350-400 o gleifion bod mis a rhyw 150 i 190 o'r rheiny bob mis yn aros 8 wythnos neu'n hwy am eu sgan.

Amcangyfrifwyd data ar gyfer Ebrill 2017 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gan ddefnyddio data ar gyfer mis Mawrth 2017.

O fis Ebrill 2018, cynhwyswyd profion diagnostig ychwanegol ar gyfer Cardioleg, gan arwain at gynnydd yn y ffigurau o'r pwynt hwn.

Daeth data niwroffisioleg ar gyfer bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan ar gael ym mis Mehefin 2023, gan ychwanegu tua 1,000 o lwybrau nad oeddent wedi'u hadrodd o'r blaen. Darparwyd gwasanaethau diagnostig niwroffisioleg gan Aneurin Bevan cyn Mehefin 2023, fodd bynnag, nid oedd y data hynny ar gael.

Rhwng Ebrill a Mehefin 2023 mae'n hysbys bod y ffigurau a gyhoeddwyd ar gyfer ‘Radioleg – atgyfeiriad meddygon teulu’ ar gyfer Ysbyty Sir Drefaldwyn ac Ysbyty Coffa Victoria yn is na'r niferoedd mewn gwirionedd.

Talgrynnu wedi'i wneud

mae ffigurau wedi'u talgrynnu i un lle degol

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru